top of page
Search

Wales and the Wild Boar

Writer: Chantal LyonsChantal Lyons

For the Welsh version, please scroll down.



There was a day, around 1.7 million years ago, when the first wild boar stepped over a yet-to-be-drawn line into Wales. 


This was in a time between ice ages, so the boar’s stay couldn’t last. Like the other animals suited to warmer and greener climes – red deer, horse, aurochs, narrow-nosed rhino, straight-tusked elephant – it retreated to the southern edges of Europe when the ice sheets came clawing back down.


11,700 years ago, the ice melted again. Wild boar crossed the bridge of Doggerland, chasing the cover of new trees and the forage of waking soils. We followed their hoofprints. We watched them, hunted them. Sometimes, when we had taken one of their lives, we placed the bones in the shallow of a lake, to show our respect.


Then others of our kind arrived, on boats, for Doggerland had long since drowned. They, we, brought axes and plans and something else: pigs. 


Trees fell to blade and fire, the land was skinned for planting, and the wild boar of Britain ceased to be a vital source of meat. Now they were a menace; males breaking into pens to sire unruly offspring with domestic sows, and all of them competing with our herds for autumn gluts of seeds and nuts. 


We ate away at their woodland homes and killed them when we could. Until the day came, some time between the thirteenth and fourteenth century, when the last wild boar of Britain – perhaps in a deep leafy gully at the far edge of Scotland or Wales – breathed out. 

And never breathed in again.


*


As far as we know, wild boar returned to the wild in Britain in 1987; on the night of the Great Storm, to be precise, when a falling tree took down a farm fence. A fad for wild boar farming had been gathering steam since the early 1980s, with the inevitable result that some individuals began to escape (while others were intentionally released). Breeding populations sprung up in due course in Kent and East Sussex, Dorset, Devon, Gloucestershire, and in the Scottish counties of Inverness-shire, Perthshire, Ayrshire, and Dumfries and Galloway. Boar were back after an absence of 700 years. A long time, by a human’s reckoning. 

Not so long by an ecosystem’s. 


Before we drove boar to extinction in Britain, they played roles for which only they were equipped. A boar lives by her snout and sense of smell, using both to dig up – to root – the ground. This ripping-open mixes layers of soil together, changing their geochemical dance. It stirs up seed banks and creates space for new plants to grow. And before that happens, ground-nesting insects might make homes in the bare earth, or bask in its heat (for bare earth warms faster beneath the sun’s gaze than does foliage). Birds swoop down in the wake of boar to pick at seeds and invertebrates left exposed.


As boar roam their habitat, weaving through woodland, scrub, meadow, and wetland, their shaggy fur and the clefts between their hooves gather seeds. Boar can go a long way in a single day or night. When the seeds fall to the ground, these may germinate far away from their parent – colonising new places, or perhaps returning to ones from which they were previously lost. 


And where boar have been, dung is left behind them. Dung beetles descend on this shiny black manna, digging needle-hole burrows for their eggs and their little dung gifts (making yet more beetles, who might in time fill the bellies of bats and birds). But there’s more than just food in this substance. When boar pluck tubers, bulbs, grubs, and other morsels from the soil, they can’t help swallowing spores of mycorrhizal fungi. Prodigious numbers of the stuff. The spores can survive passing through the gut, and can even have a better chance of germinating than those that didn’t make the same journey. Trees need mycorrhizal fungi to grow. Forests need them to thrive. Need to restore some ex-farmland? 

There’s an animal for that.


Photo by Gabor Vereb


Tir Natur understands well the singular power of the boar. In illustrator Katherine Jones’ charming rendering of the charity’s rewilding vision, the bottom right-hand corner is occupied by a rather pleased-looking pig. Indeed, in a blog post in December 2024, Tir Natur wrote of its plans for the site it seeks to buy that ‘Iron age pigs will echo the role of Wild Boar, channeling the spirit of the Mabinogi’s legendary Twrch Trwyth’.


The Mabinogion are a collection of mythological stories born in the Welsh tongue, known to us today from a fourteenth-century manuscript but that are much older than that. Pigs and wild boar variously raise their heads in these stories, but the Twrch Trwyth is the most notorious of them all. An Irish king punished for his sins by being transformed into a wild boar, he’s portrayed as a huge and ferocious beast with bristles that drip poison. Curiously, tangled into the shaggy hair of his head are a comb, shears, and razor. It’s these tools that the heroic squire Culhwch is tasked with taking.


With the help of King Arthur and his knights, Culhwch first seeks the Twrch Trwyth in Ireland. This has the effect of enraging the boar who, with an entourage of young boarlets – also once men – crosses the Irish sea into Wales. Culhwch follows, only to discover that the Twrch Trwyth has in his anger ‘ravaged towns, villages and crops across the country’¹.


This part of the story has a striking ring of prophecy to it, if you take at their word the many hysterical headlines that the return of wild boar have sparked in Britain over the last three decades: ‘Wild boars rampage through town centre graveyard’, ‘Herds of hostile hogs have humans and dogs on the run’, ‘Giant feral pigs are terrorising our town’, ‘Uncontrollable giant feral hogs closing in on Inverness’, ‘Wild boars on the rampage in the Forest of Dean’, ‘Released boars go on rampage in England’; (one does wish that the journalists and editors producing these articles would look for alternatives to ‘rampage’ in a thesaurus once in a while). 


The press may be trying to sell papers and ads, but their rhetoric reflects what many people in Britain truly believe: that wild boar only do damage to our landscapes and wildlife. To us. 

This is understandable, to a point. We’d have to go back generations and generations to reach ancestors who witnessed and took for fact the ability of wild boar to generate the kinds of physical disturbances that keep ecosystems thriving.


British people have grown up in a world where big powerful animals are missing. That does not mean there is no hope of learning to live with them again. Look at the Forest of Dean: boar have been back there since 1997, and in all that time there has been just one minor injury (the result of someone reportedly offering food to a boar – needless to say, this is inadvisable). In 2014, when I spoke to local residents about their experiences of, and attitudes towards, the animals, several of them said to me – word for word - ‘It’s only a matter of time before a child is killed.’


11 years on, such fears have failed to come to pass. It has certainly helped that Forestry England’s culling programme has succeeded in bringing the population down much closer to the agency’s target of 400 individuals. Fewer boar, fewer chances of people running into them. But by the last count in 2024², there were as many boar trotting around the place as there were in 2014, when fears and tensions about their presence ran far deeper. You still get the odd disgruntled post on Facebook about boar knocking over bins in the villages, but we’ve come a long way from the days of people terrified that they or their children might be eaten alive. The boar have become old news.


*


To conclude the tale of the Twrch Trwyth, Culhwch and Arthur drive the beast down through England to the tip of Cornwall. There, the Twrch Trwyth falls into the sea – short of his comb, shears, and razor... and vanishes. 


The doom of the Twrch Trwyth has, in some uncanny way, foreshadowed the boar’s return to modern Britain. While the population in the Forest of Dean is healthy, other enclaves have sparked and then died: Devon, Dorset, and possibly Kent and East Sussex (where sightings grow ever rarer). A single boar or a handful of them occasionally turn up in Monmouthshire, right next to the Dean. A little further into Wales there has been the odd record over the years in Bannau Brycheiniog; in Talybont-on-Usk and Talgarth in 2020; and most recently the Ffos Las Racecourse in Carmarthenshire in 2023. For a mammal that has thrived in Gloucestershire for over thirty years and has an near-unparalleled ability to breed, this is pitiful progress. 


The main reason that Wales still cannot boast a single robust population is simple: the lands beyond the Forest of Dean bristle with guns. Wild boar have few legal protections. If you have the right calibre of firearm, a licence, and land (or the permission of the landowner), you can shoot as many of them as you want, whenever you want. We have reclaimed our role as the apex predator of the boar. It’s just that we do it too well. While the boar are slowly but surely gaining a hoofhold in Scotland, England and Wales are largely bereft. And that’ll remain so until the UK Government permits the reintroduction of the species – which I recommend not holding your breath for. 


Heritage-breed pigs will be an important cog in the engine of Tir Natur’s restoration vision. But for as long as such animals are trapped within the confines of rewilding projects, the true power of their ancestors will lie dormant. 


So let us hope there will be a day when the lines fall away, and the wild boar once more awake.  


 


Photo by Kevin Jackson
Photo by Kevin Jackson

Roedd yna ddiwrnod, tua 1.7 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan gamodd y baedd gwyllt cyntaf dros linell nad oedd-eto-wedi’w-thynnu i mewn i Gymru. 


Roedd hyn mewn cyfnod rhwng oesoedd yr iâ, felly ni allai arhosiad y baedd bara. Fel yr anifeiliaid eraill a oedd yn addas ar gyfer hinsoddau cynhesach a gwyrddach - ceirw coch, ceffyl, aurochs, rhinoseros trwyn cul, eliffant tusged syth - ciliodd i ymylon deheuol Ewrop pan ddaeth y llenni iâ yn ôl o’r gogledd.


11,700 o flynyddoedd yn ôl, toddodd yr iâ eto. Roedd baedd gwyllt yn croesi pont Doggerland, gan fynd ar drywydd gorchudd coed newydd a phriddoedd oedd yn deffro. Dilynasom olion eu carnau. Gwyliasom nhw, helasom nhw. Weithiau, wedi i ni gymryd un o’u bywydau, roedden ni’n gosod yr esgyrn mewn llyn bas, i ddangos ein parch. 


Yna cyrhaeddodd eraill fel ni, ar gychod, canys yr oedd Doggerland wedi hen foddi. Fe wnaethon nhw, ni, ddod â bwyeill a chynlluniau a rhywbeth arall - moch. 

Syrthiodd coed i lafn a thân, croenwyd y tir i'w blannu, a pheidiodd baedd gwyllt Prydain â bod yn ffynhonnell hanfodol o gig. Erbyn hyn yr oeddynt yn fygythiad ; gwrywod yn torri i mewn i gorlannau i hwrdd epil afreolus gyda hychod domestig, a phob un ohonynt yn cystadlu â'n buchesi am glwtiau hydref o hadau a chnau. 


Difrodasom eu cartrefi coetir a'u lladd pan y gallem. Hyd nes y daeth y dydd, rhywbryd rhwng y drydedd ganrif ar ddeg a’r bedwaredd ganrif ar ddeg, pan anadlodd baedd gwyllt olaf Prydain – efallai mewn rhigol deiliog ddofn ar gyrion pellaf yr Alban neu Gymru. 

A byth anadlu i mewn eto.


*


Hyd y gwyddom, dychwelodd y baedd gwyllt i'r gwyllt ym Mhrydain ym 1987; ar noson y Storm Fawr, i fod yn fanwl gywir, pan ddymchwelodd coeden ffens fferm wrth syrthio. Roedd chwiw am ffermio baedd gwyllt wedi bod yn hel stêm ers y 1980au cynnar, gyda’r canlyniad anochel bod rhai unigolion wedi dechrau dianc (tra bod eraill yn cael eu rhyddhau’n fwriadol). Cododd poblogaethau magu maes o law yng Nghaint a Dwyrain Sussex, Dorset, Dyfnaint, Swydd Gaerloyw, ac yn siroedd Albanaidd Swydd Inverness, Swydd Perth, Swydd Ayr, a Dumfries a Galloway. Roedd baedd yn ôl ar ôl absenoldeb o 700 mlynedd. Amser maith, yn ôl cyfrif dynol. 

Ddim mor hir mewn cyfrif ecosystem. 


Cyn i ni yrru baedd i ddifodiant ym Mhrydain, roedden nhw'n chwarae rolau a dim ond nhw oedd â chyfarpar ar eu cyfer. Mae baedd yn byw wrth ei drwyn a’i synnwyr arogli, gan ddefnyddio’r ddau i gloddio – i wreiddio – y ddaear. Mae'r rhwygo’n-agored yma’n cymysgu haenau o bridd gyda'i gilydd, gan newid eu dawns geocemegol. Mae'n cynhyrfu banciau hadau ac yn creu lle i blanhigion newydd dyfu. A chyn i hynny ddigwydd, efallai y bydd pryfed sy’n nythu ar y ddaear yn gwneud cartrefi yn y ddaear noeth, neu’n torheulo yn ei gwres (gan fod pridd noeth yn cynhesu’n gynt o dan belydrau’r haul na’r dail). Mae adar yn plymio i lawr yn sgil y baedd i bigo hadau ac infertebratau sy'n cael eu gadael yn agored.


Wrth i faedd grwydro eu cynefin, gan wau trwy goetir, prysgwydd, dolydd a gwlyptir, mae eu ffwr garw a'r holltau rhwng eu carnau yn casglu hadau. Gall baedd fynd yn bell mewn un diwrnod neu noson. Pan fydd yr hadau'n disgyn i'r llawr, gall y rhain egino ymhell oddi wrth eu rhiant - gan gytrefu mewn lleoedd newydd, neu efallai dychwelyd i'r rhai o le y collwyd hwy yn flaenorol. 


A lle bu baedd, gadewir tail ar eu hôl. Mae chwilod tail yn disgyn ar y mana du sgleiniog hwn, gan gloddio tyllau nodwyddau i’w hwyau a'u rhoddion tail bach (gan wneud mwy fyth o chwilod, a allai ymhen amser lenwi boliau ystlumod ac adar). Ond mae mwy na bwyd yn unig yn y sylwedd hwn. Pan fydd baedd yn tynnu cloron, bylbiau, lindys a thameidiau eraill o'r pridd, ni allant beidio a llyncu sborau o ffyngau mycorhisol. Niferoedd aruthrol o'r stwff. Gall y sborau oroesi wrth fynd trwy'r perfedd, a gallant hyd yn oed gael gwell siawns o egino na'r rhai na wnaeth yr un daith. Mae angen ffyngau mycorhisol ar goed i dyfu. Mae coedwigoedd eu hangen i ffynnu. Angen adfer rhywfaint o hen dir fferm? 

Mae anifail ar gyfer hynny.


*


Dealla Tir Natur allu unigryw’r baedd yn llawn. Yn narnadaeth swynol y darlunydd Katherine Jones o weledigaeth ailwylltio’r elusen, mae’r gornel dde isaf wedi’i meddiannu gan fochyn hapus yr olwg. Yn wir, mewn blogbost ym mis Rhagfyr 2024, ysgrifennodd Tir Natur am eu cynlluniau ar gyfer y safle y mae’n ceisio’i brynu y bydd ‘moch o’r oes haearn yn adlais o rôl y Baedd Gwyllt, gan sianelu ysbryd Twrch Trwyth chwedlonol y Mabinogi’.


Casgliad o straeon mytholegol a aned yn yr iaith Gymraeg yw’r Mabinogion, sy’n hysbys i ni heddiw o lawysgrif o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ond sy’n llawer hŷn na hynny. Mae moch a baeddod gwyllt yn codi eu pennau yn y straeon hyn yn aml, ond y Twrch Trwyth yw'r mwyaf drwg-enwog ohonynt i gyd. Cosbowyd brenin Gwyddelig am ei bechodau trwy gael ei drawsnewid yn faedd gwyllt, ac fe’i portreadir fel bwystfil anferth a ffyrnig gyda blew sy’n diferu gwenwyn. Yn rhyfedd iawn, wedi'u clymu i wallt garw ei ben mae crib, siswrn, a rasel. Yr arfau hyn y mae rhaid i’r sgweier arwrol Culhwch eu hennill.


Gyda chymorth y Brenin Arthur a'i farchogion, mae Culhwch yn ceisio'r Twrch Trwyth yn Iwerddon am y tro cyntaf. Effaith hyn yw cynddeiriogi'r baedd, sydd, gydag entourage o faeddodiaid ifanc - hefyd unwaith yn ddynion - yn croesi Môr Iwerddon i Gymru. Dilyna Culhwch, dim ond i ddarganfod bod y Twrch Trwyth, yn ei ddicter, wedi ‘dinistrio trefi, pentrefi a chnydau ar hyd a lled y wlad’¹.


Mae gan y rhan hon o’r stori synnwyr drawiadol o broffwydoliaeth iddi, os cymerwch y penawdau newydd hysterig niferus ar eu gair y mae dychweliad baedd gwyllt wedi’u hysgogi ym Mhrydain dros y tri degawd diwethaf: 'Baeddod gwyllt yn rhuthro trwy fynwent canol y dref', 'Buchesi o fochyn gelyniaethus yn erlid bodau dynol a chŵn', 'Moch gwyllt anferth yn dychryn ein tref', 'Moch gwyllt anferth na ellir eu rheoli yn cau i mewn ar Inverness', 'Baeddod gwyllt on the rampage yn Fforest y Ddena', 'Baeddod a ryddhawyd yn mynd ar rampage yn Lloegr';  (dymunwn y byddai’r newyddiadurwyr a’r golygyddion sy’n cynhyrchu’r erthyglau hyn chwilio am ddewisiadau amgen i ‘rampage’ mewn thesawrws o bryd i’w gilydd). 


Efallai bod y wasg yn ceisio gwerthu papurau a hysbysebion, ond mae eu rhethreg yn adlewyrchu'r hyn y mae llawer o bobl ym Mhrydain yn ei gredu mewn gwirionedd: dim ond difrod i’n tirweddau a’n bywyd gwyllt ac i ni mae’r baedd gwyllt yn ei wneud. 

Mae hyn yn ddealladwy, hyd at bwynt. Byddai'n rhaid i ni fynd yn ôl cenedlaethau a chenedlaethau i gyrraedd cyndeidiau a oedd yn dyst ac yn cymryd yn wir allu baedd gwyllt i gynhyrchu'r mathau o aflonyddwch corfforol sy'n cadw ecosystemau yn ffynnu.


Mae pobl Prydain wedi cael eu magu mewn byd lle mae anifeiliaid mawr pwerus ar goll. Nid yw hynny'n golygu nad oes gobaith dysgu byw gyda nhw eto. Edrychwch ar Fforest y Ddena: mae baedd wedi bod yn ôl yno ers 1997, ac yn ystod yr holl amser hwnnw, dim ond un mân anaf a gafwyd (canlyniad yn ôl pob sôn am rywun yn cynnig bwyd i faedd - afraid dweud, nid yw hyn yn ddoeth). Yn 2014, pan siaradais â thrigolion lleol am eu profiadau a’u hagweddau tuag at yr anifeiliaid, dywedodd sawl un wrthyf – gair am air – ‘Dim ond mater o amser yw hi cyn i blentyn gael ei ladd.’


11 mlynedd yn ddiweddarach, mae ofnau o'r fath wedi methu â dod yn wir. Mae’n sicr wedi helpu bod rhaglen ddifa Forestry England wedi llwyddo i ddod â’r boblogaeth i lawr yn llawer agosach at darged yr asiantaeth o 400 o unigolion. Llai o faeddod, llai o siawns o bobl yn dod i gyswllt gyda nhw. Ond erbyn y cyfrif diwethaf yn 2024², roedd cymaint o faedd yn trotian o amgylch y lle ag oedd yn 2014, pan aeth ofnau a thensiynau am eu presenoldeb yn llawer dyfnach. Rydych chi'n dal i gael postiau Facebook anfodlon am faedd yn dymchwel biniau yn y pentrefi, ond rydyn ni wedi dod yn bell o'r dyddiau pan oedd pobl wedi dychryn y gallent hwy neu eu plant gael eu bwyta'n fyw. Mae’r baedd wedi dod yn hen newyddion.


*


I gloi chwedl y Twrch Trwyth, mae Culhwch ac Arthur yn gyrru'r bwystfil i lawr trwy Loegr i ben pellaf Cernyw. Yno, mae’r Twrch Trwyth yn syrthio i’r môr – heb ei grib, ei siswrn, a’i rasel – ac yn diflannu. 


Mae tynged y Twrch Trwyth, mewn rhyw ffordd ryfedd, wedi rhagfynegi dychweliad y baedd i Brydain fodern. Er bod y boblogaeth yn Fforest y Ddena yn iach, mae cilfachau eraill wedi eu tanio ac yna wedi marw: Dyfnaint, Dorset, ac o bosibl yng Nghaint a Dwyrain Sussex (lle mae nifer yr achosion o’u gweld yn mynd yn brinnach). Mae baedd sengl neu lond dwrn ohonynt yn troi i fyny yn Sir Fynwy yn achlysurol, drws nesaf i Goedwig y Ddeon. Ychydig ymhellach i mewn i Gymru recordiwyd rhai o bryd i’w gilydd ym Mannau Brycheiniog; yn Nhalybont-ar-Wysg a Thalgarth yn 2020; ac yn fwyaf diweddar yng Nghae Ras Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin yn 2023. I famal sydd wedi ffynnu yn Swydd Gaerloyw ers dros ddeng mlynedd ar hugain ac sydd â gallu bron heb ei ail i fridio, mae hwn yn gynnydd truenus. 


Mae’r prif reswm pam na all Cymru frolio un boblogaeth gadarn o hyd yn syml: mae’r tiroedd y tu hwnt i Fforest y Ddena yn frith o ynnau. Ychydig o amddiffyniadau cyfreithiol sydd gan faedd gwyllt. Os oes gennych y safon gywir o ddrylliau tanio, trwydded, a thir (neu ganiatâd perchennog y tir), gallwch saethu cymaint ohonynt ag y dymunwch, pryd bynnag y dymunwch. Rydym wedi adennill ein rôl fel ysglyfaethwyr apig y baedd. Dim ond ein bod ni'n ei wneud yn  rhy dda. Tra bod y baedd yn araf ond yn sicr yn dechrau enill tir yn yr Alban, mae Cymru a Lloegr i raddau helaeth yn amddifad. A bydd hynny'n parhau felly nes bod Llywodraeth y DU yn caniatáu ailgyflwyno'r rhywogaeth - rhywbeth rwy'n argymell peidio â dal eich gwynt wrth ddisgwyl amdano. 


Bydd moch o frid treftadaeth yn ran bwysig yng ngweledigaeth adfer Tir Natur. Ond cyn belled â bod anifeiliaid o'r fath yn gaeth o fewn cyfyngiadau prosiectau ail-wylltio, bydd gwir bŵer eu hynafiaid yn segur. 


Felly gadewch inni obeithio y bydd diwrnod pan fydd y llinellau'n cwympo i ffwrdd, a'r baedd gwyllt yn effro unwaith eto.   


 


 
 
 

Комментарии


Комментарии отключены.

 

Tir Natur

Y Beudy

Lanlwyd

Pennant

Ceredigion

SY23 5JH

team@tirnatur.cymru

07929 275137

Subscribe Form

Thanks for submitting!

  • Twitter
  • Instagram
  • Facebook

Tir Natur is a Charitable Incorporated Organisation registered in Wales & England - Registration Number 1199300

bottom of page