top of page
Search

Yr Afanc: Villain to Hero?

  • Writer: Eben Myrddin Muse
    Eben Myrddin Muse
  • Apr 4
  • 6 min read

Sgroliwch ławr am y Gymraeg - Scroll for Welsh


What is an afanc [ˈavank]? A destructive beast capable of felling great trees, shifting the course of rivers, and creating wetlands, preventing or causing floods. The darling of today’s conservationists and rewilders. A mythological scaly, furry, dwarfish thing, the terrorising tales of whom were whispered around campfires or told as warning to fishermen floating on murky lakes.


Okay, I may be conflating two things here, but the modern day beaver (afanc in Welsh) shares its name with the Welsh mythological aquatic creature, the Afanc. But what of its nature? Growing up with stories about both of them, I always wondered how these cute, seemingly-harmless, furry, buck-toothed rodents came to inherit that shared name. Did they evolve from a larger, more fearsome beast, long since hunted to extinction? Were these giant hybrid beavers, who in my youthful imagination roamed primeval Wales, harnessing roaring rivers and chowing down on the trunks of the ancient wildwood as if they were this spring’s saplings? Their massive teeth prized as daggers, and their pelts as winter cloaks? All of my wonderings eventually ceased when I, while hiking abroad, unknowingly stumbled upon a beaver’s lodge and dam in the wild. 


Photo: Vera Sidorova
Photo: Vera Sidorova

My first reaction was, “What on earth could have done this?” 


Before me was a heaving morass of murky wetland, and a pond, crenellated by carefully engineered heaps of aspen, cottonwood, and willow. It wasn’t the type of ground that any human could easily navigate, even by boat, with clumps of bullrushes, myriad pondweeds, green flowing coontails clogging, and vast clumps of duckweed all waiting to slime and ensnare a human victim. It wouldn’t be me; this was no human’s domain. A habitat created by a different master of the environment. I could see the wicked work of the afanc - a quaking maple, as good as munched through, waiting for the wind to deliver the final blow. Witnessing such impact on land, you can understand why such a diminutive creature managed to win a name and a reputation beyond its stature. But a monster?


Time for some introspection; we have things in common with the afanc - both the Afanc of myth and the beavers starting to trickle back into Wales. Most obviously, both of us bloody love chopping down trees. We live in homes that we maintain, and rely on tight social bonds. Each of us shapes the places we live, changing them to suit our strengths. We are both capable of causing flooding (although our methods certainly differ, goodbye icecaps). Like the Afanc, when humanity is gone, we’ll be remembered (if we are remembered at all) in part as a terrible menace which devoured and destroyed.


Certainly in a world where we’ve sought to create order - to straighten the rivers, to gutter the rain, to drain moor and mountain, to push nature and people into neatly bunded silos, the Afanc might seem the vandal, the anarchist. The beaver doesn’t ‘improve’ a landscape, it is a natural agent of chaos and destruction. But perhaps we need that - the mess they make, the slowing of flow and filtering of water, creation of habitat and blurring their edges. Challenging the mastery of humanity here and there. That’s not so monstrous. Already the afanc has slowly but surely been returning to Wales - with successful controlled pilots on the Dyfi and other wild releases in Pembrokeshire and elsewhere, but the pace is glacial.


The Afanc of yesteryear represented a threat which the people of the time eradicated; in Iolo Morganwg’s forged (but beloved) 18th century account of the Afanc, Hu Gadarn (Hu the Mighty) draws the Afanc from its watery domain in chains with a team of oxen, halting the floods and saving the day. The mostly sans-afanc Wales of today is more vulnerable than ever to flooding. It’s time to admit, maybe the flooding wasn’t their fault. It’s time to retrace our steps – to unchain the afanc and invite them back to complete their redemption, from mythical monster to wild saviour. To build their leaky dams, and hold the floods at bay again.



 

Yr Afanc - Cnaf neu Arwr?


Beth yw an afanc? Bwystfil dinistriol a all dorri coed mawr, arallgyfeirio afonydd, a chreu gwlyptiroedd, atal neu achosi llifogydd. Hoff greadur cadwraethwyr ac ail-wylltwyr cyfoes. Rhywbeth mytholegol, cennog, blewog, corachog, testun chwedlau brawychus sibrydwyd mewn cylch o amgylch fflamau neu eu hadrodd fel rhybudd i bysgotwyr wrth iddynt arnofio ar lynnoedd tywyll a dyfn.


Iawn - falle mod i'n cymysgu dau beth fan hyn - ond mae'r afanc Cymreig modern, yn rhannu ei enw â'r creadur dyfrol chwedlonol, a hefyd ei elwir yn ‘Afanc’. Ond beth am ei natur? Wrth dyfu i fyny yn clywed am y ddau ohonynt ar wahan, pendronais tybed sut y daeth y cnofilyn del, diniwed, blewog, â danedd mawr yma i etifeddu'r enw hwnnw, yn gyffredin â’r bwystfil. A wnaethant esblygu o fod yn anifail mwy, mwy milain, a gafodd ei hela hyd at ddifodiant yn yr oesoedd a fu? Ai’r afancod hybrid anferth hyn a oedd, yn fy nychymyg ifanc, yn crwydro’r Gymru gyntefig, gan ddofi afonydd ffyrnig a chnoi ar foncyffion y coed gwyllt hynafol fel petaent fel tyfiant gwyrdd cynta’r gwanwyn? Eu dannedd anferth wedi ei trysori fel dagrau miniog, a'u ffwr fel clogynnau cynnes meddal? Daeth fy holl fyfyrio i ben yn y diwedd pan wnes i, wrth grwydro coedwig dramor, ddigwydd yn ddiarwybod i gyful cartref ac argae afanc wyllt. 


Photo: Vera Sidorova
Photo: Vera Sidorova

Fy ymateb cyntaf oedd, “Beth ar y ddaear allai fod wedi gwneud hyn?” 


O'm blaen yr oedd twmpath o wlyptir muriog, a phwll, wedi'i grenellu gan swmp o froc, coed cotwm, a helyg wedi'u peiriannu'n ofalus mewn pentyrrau. Nid dyma’r math o dir y gallai unrhyw ddyn ei lywio’n hawdd, hyd yn oed mewn cwch, gyda chlystyrau o gynffon y gath, amrywiaeth o ddyfrllys yn llifo’n wyrdd, a chlystyrau helaeth o linad bach, i gyd yn aros mewn un llysnafedd i gipio tresmaswr. Nid myfi; nid parth dynol mo hwn. Cynefin a grëwyd gan feistr gwahanol ar yr amgylchedd. Hawddd oedd gweld gwaith drygionus yr afanc - crynodd masarn, oedd cystal â bod wedi ei chnoi thrwodd, gan ddisgwyl i'r gwynt gyflawni'r ergyd olaf. Ar ôl bod yn dyst i effaith o'r fath ar dir, gallwch ddeall pam y llwyddodd creadur mor fychan i ennill enw ac enw da y tu hwnt i'w faint ffisegol. Ond anghenfil?


Neth am ychydig o fewnsyllu; mae gan yr hil ddynol ambell beth yn gyffredin â'r afanc - Afanc y chwedl a'r afancod sy’n dechrau diferu yn ôl i Gymru. Yn fwyaf amlwg, mae'r ddau ohonom yn wrth ein bodd yn torri coed i lawr. Rydan ni’n byw mewn cartrefi rydym yn eu cynnal, ac yn dibynnu ar rwymau cymdeithasol tynn. Mae’r naill a’r llall yn siapio'r ardaloedd lle rydyn ni'n byw, gan eu newid i weddu i'n cryfderau. Mae’r ddau ohonom yn gallu achosi llifogydd (er bod ein dulliau yn sicr yn wahanol, hwyl fawr i’r capiau ia). Fel yr Afanc, pan fydd dynoliaeth wedi diflannu, fe'n cofir ni (os ydym yn cael ein cofio o gwbl) yn rhannol fel bygythiad ofnadwy a larpiodd ac a ddinistriodd.


Yn sicr, mewn byd lle’r ydym wedi ceisio creu trefn – i sythu’r afonydd, i wteru llif y glaw, i ddraenio mynyddoedd a gwaunydd, i wthio natur a phobl i mewn i seilos wedi’u bwndio’n daclus, efallai mai’r Afanc yw’r fandal, yr anarchydd. Nid yw’r afanc yn ‘gwella’ tirwedd, mae’n asiant naturiol o anhrefn a dinistr. Ond efallai bod angen hynny arnom - y llanast maen nhw'n ei greu, wrth arafu llif a hidlo dŵr, creu cynefin a chwalu eu hymylon. Herio meistrolaeth y ddynoliaeth yma ac acw. Ai gwaith bwystfil yw hynny? Eisoes mae'r afanc wedi bod yn dychwelyd yn araf ond yn sicr i Gymru - gyda chynlluniau peilot llwyddiannus dan reolaeth ar y Dyfi ac unigolion gwyllt eraill yn Sir Benfro a mewn mannau arall, ond mae’r newid yn araf.


Cynyrchiolai Afanc y gorffennol fygythiad a ddileuwyd gan bobl yr oes; yn hanes ffuglonnol (ond annwyl) o’r 18ed ganrif Iolo Morganwg am yr afanc, bu Hu Gadarn wrthi’n tynnu’r afanc o'i gartref dyfrllyd mewn cadwynni gan ddefnyddio tîm o ychen, gan atal llifogydd dinistriol ac achub y dydd. Mae Cymru heb-afanc (ar y cyfan) heddiw yw yn fwy agored i lifogydd nag erioed. Mae’n bryd cyfaddef, efallai nad eu bai nhw oedd y llifogydd. O bosib, mae hi’n bryd i ni droi’r cloc yn ôl - i ddatod cadwynni’r afanc a'u gwahodd yn ôl i’w adbryniaeth, o anghenfil chwedlonol i waredwr gwyllt. I adeiladu eu hargaeau dyferiog, a chadw’r dwr rhagom eto.



Cover image credits: Derek Otway

 
 
 

コメント


この投稿へのコメントは利用できなくなりました。詳細はサイト所有者にお問い合わせください。

 

Tir Natur

Y Beudy

Lanlwyd

Pennant

Ceredigion

SY23 5JH

team@tirnatur.cymru

07929 275137

Subscribe Form

Thanks for submitting!

  • Twitter
  • Instagram
  • Facebook

Tir Natur is a Charitable Incorporated Organisation registered in Wales & England - Registration Number 1199300

bottom of page