top of page

Cefnogi Tir Natur

Ymunwch â chymuned frwdfrydig o gefnogwyr sy'n dod â gwylltineb yn ôl i Gymru, gan adfer lleoedd lle gall natur ffynnu, a lle gall pobl elwa

ar ddyfodol iachach a mwy gwyllt.

Chwaraewch eich rhan yn Gymru

fwy gwyllt 

​

Bydd eich cefnogaeth chi yn helpu i ryddhau potensial y lle hwn. Bydd yn caniatáu i fyd natur a chymunedau ffynnu ochr yn ochr â’i gilydd, a hynny wrth greu enghraifft bwerus, go iawn i lywio ac ysbrydoli gwaith adfer dan arweiniad byd natur ar hyd a lled Cymru.

 

​Rydym wedi lansio apêl i godi £500k i helpu i dalu cost y safle a dechrau ar ein gweithgareddau ailwylltio a chymunedol.

NS-PC-12161939.jpg
Gyda'n gilydd, gallwn greu lle i natur arwain
y ffordd

Dyma ffyrdd eraill y gallwch ein cefnogi. Mae rhoddion rheolaidd misol neu flynyddol yn arbennig o werthfawr. Maent yn rhoi'r hyder i ni gynllunio ar gyfer y tymor hir, i fod yn fwy uchelgeisiol, i fuddsoddi'n ddyfnach ac i ddod â mwy o natur yn ôl i Gymru.

 

Yn anad dim, mae eich cefnogaeth yn dod â gobaith - ac yn ein helpu i weithio gyda mwy o bobl, eu hysbysu a'u hysbrydoli i gymryd rhan yn adferiad natur.

 

Diolch - am eich cefnogaeth

I drafod dod yn Aelod Sefydlu Cymunedol, gwneud rhodd sylweddol, neu roi trwy Gronfa o Dan Reolaeth y Rhoddwr, anfonwch e-bost at gwenni@tirnatur.cymru​​​​​​​​​​​​​​​​​

Butterfly.png

Illustration by Katherine Jones

Pam cefnogi Tir Natur?

Jane Hebborn

​"Mae mor galonogol gwybod bod pobl yn malio a'u bod nhw'n gwneud rhywbeth. Dw i mor falch o gael cefnogi'r prosiect arbennig yma."
bottom of page