top of page
luke-baum-9YgAmTLb6I4-unsplash.jpg
Mynd gam (neu fwy) ymhellach gyda Thîm Tir Natur​

​​

Rydych chi'n anhygoel!

​​​​​

P'un a ydych chi'n beicio, rhedeg, mynydda, neu'n gwneud rhywbeth cwbl wahanol – diolch am ddewis codi arian ar ran Tir Natur! Mae eich cefnogaeth chi yn dod â ni'n nes at greu'r prosiect mwyaf yng Nghymru ar gyfer adfer ecosystemau.

Mae pob un cam, pob pedal, a phob un llethr a ddringwch chi yn helpu i ddatgloi mwy o dir ar gyfer bywyd gwyllt.

​​

I ymuno â thîm Tir Natur:

  • Sicrhewch eich lle yn uniongyrchol gyda threfnwyr y digwyddiad – allwn ni ddim cofrestru ar eich rhan.

  • Sefydlwch dudalen codi arian ar JustGiving neu Crowdfunder. Ysgrifennwch eich stori a llwythwch eich lluniau er mwyn ysbrydoli pobl i roi – bydd y cyfraniadau'n dod yn uniongyrchol atom ni.

  • Rhannwch hanes eich taith! Tagiwch ni yn eich lluniau neu fideos o'r diwrnod ar y cyfryngau cymdeithasol (dolenni isod).​​​​

​​

Ydych chi'n trefnu rhywbeth arall, e.e. gwerthu cacennau, raffl neu ymgyrch godi arian greadigol arall?

Byddem wrth ein bodd o glywed oddi wrthoch chi!

Anfonwch e-bost at team@tirnatur.cymru ac fe wnawn ein gorau glas i'ch cefnogi.

​​​​​
Diolch eto am sefyll gyda byd natur.
Mae eich ymdrech yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Delwedd: Rhedwyr (Luke Baum); Darlun (Katherine Jones Artist)

​

Tir Natur

Y Beudy

Lanlwyd

Pennant

Ceredigion

SY23 5JH

​

team@tirnatur.cymru

​

07929 275137

​

Tanysgrifiwch i'n rhestr e-bost

Diolch am gyflwyno!

  • Instagram
  • Facebook

Mae Tir Natur yn Sefydliad Corfforedig Elusennol sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr - Rhif Cofrestru 1199300

bottom of page