Dilyn egwyddorion ailwylltio ar y tir

Sut byddwn ni'n rhoi egwyddorion ailwylltio ar waith ar y tir?
Ein huchelgais yw cefnogi natur i adfer ar raddfa fawr – cynefinoedd, prosesau naturiol a, lle bo'n briodol, rhywogaethau coll – nes bydd y we ryfeddol hon yn gallu gofalu amdani'i hun, ac amdanom ninnau, unwaith yn rhagor. Dyma ydy ailwylltio.
​
Caiff ecosystemau eu siapio gan filiynau o flynyddoedd o gyd-esblygiad rhwng pethau byw a'r dŵr, yr aer, yr haul a'r pridd. Rydym yn gweld sut mae pobl wedi gwthio ecosystemau at ymyl y dibyn. Ond bellach mae gennym y wybodaeth am sut yn union i'w hadfywio.
Pori naturiol
Ar ôl gwaith arolygu a monitro ecolegol, byddwn yn cyflwyno gwartheg gwydn a merlod mynydd Cymreig, gyda brid o foch o'r Oes Haearn i'w dilyn. Bydd yr anifeiliaid hyn yn gwneud gwaith yr anifeiliaid hynafol gwyllt a ddaeth o'u blaenau – y cynfual, y tarpan a'r baedd gwyllt – pob un yn chwarae rôl unigryw trwy bori, blewynna a thyrchu.
​​
Mae eu hymddygiad yn creu brithwaith o gynefinoedd – glaswelltiroedd, coed pori, coedwigoedd dan ganopi trwchus a mannau agored – a llond gwlad o 'ecotonau', neu gyffindir (sef y lleoedd hynny ble mae dau fath o gynefin yn gorgyffwrdd). Mae'r cyffindir yn aml yn gyfoethocach ac yn fwy deinamig ei natur na'r cynefinoedd o boptu iddo. Yn y llecynnau ymylol hyn y mae natur yn wirioneddol adfywio – mae yma fwy o flodau gwyllt, prysgwydd a choed, pryfed, adar, a mamaliaid.
​​​
Mae pori naturiol yn meithrin gwytnwch, gan helpu tirweddau i atal effeithiau newid hinsawdd fel sychder, tân a llifogydd, neu i'w gwrthsefyll yn well.
Ar y llaw arall, os caiff tir ei adael heb unrhyw anifeiliaid pori naturiol, yn aml bydd nifer fechan o rywogaethau (fel rhedyn ungoes) yn tyfu'n drwch drosto yn gyflym, a hynny'n arwain at amgylcheddau unffurf a phrinder gwirioneddol o rywogaethau. Dyma ydy gwrthwyneb ecosystem ffyniannus.
​​​
Er bod anifeiliaid pori naturiol yn hanfodol er mwyn adsefydlu cyfoeth rhyfeddol byd natur, mae llawn mor bwysig rheoli eu niferoedd. Bydd rheolwr stoc yn cael ei benodi i wneud hynny. Os bydd gormod o anifeiliaid yn pori, bydd hynny'n tanseilio'r ecosystemau. Serch hynny, bydd yr anifeiliaid pori naturiol hyn yn byw yn wyllt, nid yn cael eu cadw fel da byw.
Byddwn hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer ailwylltio drwy ddilyn y camau canlynol:
-
Cysgodi coridorau afonydd er mwyn oeri'r dŵr a fydd fel arall yn cynhesu, rhywbeth a fydd yn hanfodol i fywyd yr afonydd (yn ddibynnol ar astudiaeth dichonoldeb a chymeradwyaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan fod y safle o fewn SoDdGA).
-
Cael gwared ar rwystrau sy'n atal ein hymyriadau, er enghraifft hen rwystrau draenio, ffensys mewnol neu rywogaethau goresgynnol, er mwyn caniatáu i fawndiroedd a bywyd gwyllt adfer yn llawn.

Byddwch yn rhan o'r daith i ailwylltio
Bydd eich rhodd yn cefnogi:
-
Adfer brithwaith rhyfeddol o rywogaethau a chynefinoedd brodorol, gan roi'r lle sydd ei angen ar fywyd gwyllt i ffynnu unwaith yn rhagor.
-
Adfer mawndiroedd hanfodol sy'n storio carbon yn y ddaear, yn cyfoethogi ein pridd, ac yn cadw dŵr ar y tir – gan ddiogelu cymunedau lleol rhag llifogydd a thanau gwyllt.
-
Creu lloches wyllt i bobl ei darganfod, ble gallant gysylltu â byd natur a chael hyd i lonyddwch ym myd natur.
-
Prosiectau a gweithgareddau sy'n ein galluogi i rannu ein gwaith ag eraill ac ysbrydoli Cymru Wylltach i bawb.​
​​​​
At hynny, mae hwn yn dir mynediad agored, felly gallwch ymweld a bod yn dyst i ddychweliad byd natur, gan wybod eich bod chi wedi chwarae rhan yn hynny!

Delweddau: Carw mewn prysgwydd (Knepp Wildlands), Coeden (Mike Richard)

