top of page
Darluniau Ark
Mae'r darluniau gwych hyn gan Jeroen Helmer yn dangos prif effeithiau ecolegol anifeiliaid pori mawr a'u rôl yn siapio'r cilfachau ecolegol a microgynefinoedd sy'n bodoli o fewn ecosystem gymhleth. Maent yn darlunio'n hyfryd sut mae rhywogaethau wedi cyd-esblygu i ryngweithio gyda'i gilydd ac i gynnig buddion i'w gilydd. Dros y degawdau a'r canrifoedd diwethaf, rydym wedi gwrthdroi llawer o'r esblygiad hwnnw, ac wedi erydu prosesau naturiol pwysig. Drwy ailwylltio gallwn wau y we brydferth hon unwaith yn rhagor a'i hadfer i'w llawn gymhlethdod. Ar yr ymylon anniben y mae bywyd gwyllt wir yn ffynnu!
​​
Cliciwch ar y saeth i sgrolio drwy'r darluniau.
bottom of page

















