top of page
240519539_223602176439532_1670586499156534918_n.jpeg

Egwyddorion a Chanlyniadau Ail-wylltio

Egwyddorion

1. Systemau Pori Naturiol

Rhan o ailwylltio yw rhoi lefelau naturiol o anifeiliaid pori mawr ar ein tir. Mae ail-wylltio yn cydnabod effaith positif mae'r anifeiliaid mawr yma yna eu cael ar ecosystemmau. Bydd gwartheg, merlod a moch yn gweithredu fel dirprwyon ecolegol ar gyfer eu hynafiaid gwyllt (auroch, tarpan a baedd gwyllt), ochr yn ochr â charw coch ac iwrch. At hynny, byddai elc a buail yn llysysyddion mawr posibl mewn unrhyw brosiect ail-wylltio.

2. Ailgyflwyno Rhywogaethau Coll

Rhan arall o ailwylltio yw ceisio ailgyflwyno rhywogaethau coll sy'n allweddol i weithrediad ecosystem. Mae afancod, bele'r coed, gwiwerod coch, eryr aur yn enghreifftiau.

3. Cymuned Gwydnwch, Cyfranogiad & Asiantaeth

Mae ail-wylltio yn cynnig cyfleoedd i economïau lleol, gan eu gwneud yn fwy wydn. Dylai cymunedau lleol fod yn wreiddiol i ailwylltio bob amser.

4. Graddfa a Chydweithrediad Rhwng Tirfeddiannwyr

Mae ailwylltio yn gweithio orau ar raddfa. Mae tirfeddianwyr yn gweithio ar y cyd yn golygu mwy o le i natur ac yn caniatáu i brosesau naturiol ddigwydd yn fwy effeithiol. Bydd Tir Natur yn annog am glystyrau o ffermydd – cydweithio yw’r ffordd orau o adfer byd natur.

5. Gadael i Natur Arwain

Mae ailwylltio yn rhoi natur yn y sedd yrru. Unwaith y bydd rhai prosesau wedi'u hadfer, ni chaiff natur ei rheoli na'i thrin. Yn wahanol i lawer o ymdrechion cadwraeth, nid yw rhywogaethau neu gynefinoeddd unigol wedi'u targedu'n benodol ar gyfer eu hamddiffyn. Hyderwch mai natur sy'n gwybod orau. Dim ond ychydig gannoedd o filiynau o flynyddoedd o dystiolaeth sydd bod hyn yn wir.

6. Ynddo Am Y Tymor Hir

Mae ailwylltio yn dibynnu ar nodwedd ddynol brin; amynedd. Tra bod gan natur allu mawr i wella ei hun, mae angen i ni roi’r amser sydd ei hangen arni i wella.

7. Mae gan Bawb Rôl i'w Chwarae

Mae ailwylltio yn cynnwys pawb. Gall pob un ohonom chwarae rhan yn adferiad byd natur, sydd wedi cael ei ystyried ers gormod o amser fel cyfrifoldeb cadwraethwyr yn unig.

8. Cysylltu Pobl a Natur

Nid yn unig ydy ailwylltio yn crfhau ecosystemau, mae hefyd yn cryfhau ein perthynas a natur ei hun. Er mwyn i natur ffynnu i'r dyfodol, rhaid i gymdeithasau ailgysylltu efo bywyd gwyllt. Rhaid i ni ailddysgu empathi â natur fel nad ydym yn ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol.

9. Dysgu O'r Gorffennol

Nid yw ailwylltio yn ceisio atgynhyrchu tirwedd neu ecosystem benodol mewn hanes, yn hytrach mae’n ailgyflwyno prosesau naturiol sy’n caniatáu i natur fod yn ddeinamig mewn i’r dyfodol. Fodd bynnag, rhaid  i ni edrych i’r gorffennol i sefydlu beth yw’r prosesau hyn. Rhaid i ni ddysgu o'n camgymeriadau, a'r ffyrdd yr ydym wedi datrys gwe gymhleth bywyd.

10. Gobaith

Mae'r ffiethiau yn dweud y cwbl. Mae dros 1,000,000 o rywogaethau mewn perygl o ddifodiant yn fyd-eang, a Cymru yw un o wledydd tlotaf y byd am bioamrywiaeth. Mae ailwylltio yn cynnig gobaith. Mae’n bryd cael naratif newydd, ail-ddychmygu’r hyn sy’n bosibl ei gyflawni yn ein tirweddau.

Red+Deer+in+Knepps+Repton+Park2.jpeg

Canlyniadau

Nid yw ailwylltio, yn wahanol i gadwraeth draddodiadol, yn arwain at ganlyniadau sefydlog, ond rhai mwy haniaethol. Nid oes targed ar gyfer a nifer penodol o rywogaeth benodol. Yn lle hynny, mae ailwylltio yn ceisio adfer effeithiolrwydd yr ecosystem ac felly'r fioamrywiaeth a bio-ddigonedd cyffredinol ardal.

1. Amrywiaeth strwythurol a rhywogaethau

2. Cynefinoedd-meicro wedi'u hadfer

3. Ecosystemau deinamig sy'n newid ac yn esblygu dros amser

4. Ecosystemau sy'n wydn ac yn gallu addasu i newid hinsawdd

5. Mosaig o gynefinoedd cymhleth sy'n esblygu

6. Adfer rhywogaethau brodorol, coll

7. Tirweddau naturiol i bawb eu mwynhau

8. Adfer effeithiolrwydd ecosystemau

9. Pobl yn ailgysylltu â natur wyllt gydag ymdeimlad o les

10. Systemau fferm mwy gwydn, gya llai o mewnbynnau

Credydau llun mewn trefn - Merlen Wet Exmoor (Rugh Chamberlain), Deer (Knepp Wildlands)

bottom of page