top of page
Teasel.jpg

Dewch i gwrdd â'r tîm

Llysgennad

1.png
Iolo Williams

 

Y naturiaethwr a'r cyflwynydd teledu, Iolo Williams, yw llysgennad Tir Natur:

"Mae Cymru ymysg gwledydd y byd sydd wedi gweld y colledion mwyaf o ran natur, ac mae’r adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur yn dangos, er gwaethaf ymdrechion cadwraeth, bod bywyd gwyllt yn dal ar i lawr. Yn ystod fy oes i, rwyf wedi gweld dirywiad enbyd mewn rhywogaethau fel draenogod, cornchwiglod a breision melyn. Os ydyn ni am newid cyfeiriad, rhaid i ni ddangos mwy o uchelgais.
​​
Rhaid i ni fod yn meddwl am adfer ecosystemau ar raddfa'r dirwedd, fel y gall natur gymryd yr awenau ac ymadfer ar raddfa llawer ehangach. Yn fyr, rhaid i ni ailwylltio."

Y Tîm

Mae gan ein Tîm Gweithredol ymroddgar gyfoeth o arbenigeddau, yn cynnwys sgiliau arwain elusennau, ailwylltio, codi arian, ymgysylltu â’r gymuned ac ecoleg. Gyda'i gilydd, nhw sy'n gyrru ein cenhadaeth yn ei blaen. 

David Kilner

David Kilner
Swyddog Rhaglen a Datblygu

Dan Ward

Dan Ward
Swyddog Polisi
 

Elen Robert

Elen Robert 
Swyddog y Gymraeg / Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol

Emma Worsley

Emma Worsley
Cynorthwyydd Gweinyddol a Rhoi Unigol

Gwennan Jenkins-Jones

Gwenni Jenkins-Jones
Rheolwr Rhoi Unigol

Jo Denham

Jo Denham
Cydlynydd Gwirfoddolwyr
 

Siân Stephen

Siân Stephen

Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol

Adriana de Nicolay

Adriana de Nicolay
Swyddog Cyfathrebu

Eben Myrddin Muse

Eben Myrddin Muse

Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol

IMG_2585_edited.jpg

Jonathan Hughes
Swyddog Corfforaethol

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Mae ein hymddiriedolwyr tu hwnt o ymroddgar yn sicrhau atebolrwydd ac yn rhoi goruchwyliaeth strategol. Maent yn cyfrannu profiad helaeth ar draws meysydd ailwylltio, ffermio, cyllid, adnoddau dynol, llywodraethu elusennau a chyfathrebu.

Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio ar gyfer Ymddiriedolwyr Cymraeg eu hiaith yng Ngheredigion neu ym Mhowys. Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at trustees@tirnatur.cymru

10.png

Tasha Reilly (Cadeirydd)

Team Images.png

Tim Birch

9.png

Richard Wheat

Mae Tash yn ffermwr sy'n rheoli 70 erw yn Sir Gaerfyrddin lle mae hi'n datblygu model ar gyfer fferm a fydd yn rhedeg gyda 60% o'r tir ar gyfer cynhyrchu cig eidion a phorc yn ogystal ag amaeth-goedwigaeth, a'r 40% sy'n weddill yn cefnogi ac yn cynyddu bioamrywiaeth. Mae Tash yn cefnogi ailwylltio yng Nghymru yn llwyr ac yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr eraill i gynyddu ein cyfalaf naturiol. Dechreuodd gyrfa Tash fel gwyddonydd planhigion yng Ngerddi Kew ac yno y ganwyd ei chariad at fyd natur. Mae Tash wedi mynd yn ôl i'r cychwyn gan astudio gradd mewn gwyddor amgylcheddol gyda'r Brifysgol Agored ar hyn o bryd. Dechreuodd diddordeb Tash mewn ailwylltio mewn gweithdy yn Glen Affric yn 2018 ac mae hi'n dal i ddysgu.

Mae Tim yn ymgyrchydd dros natur a'r amgylchedd sydd wedi gweithio yn fyd-eang ers dros 30 mlynedd ar faterion hanfodol fel dinistriad coedwigoedd glaw yr Amason ac Indonesia, llygredd gwenwynig yn ein cefnforoedd a'n hafonydd a'r dirywiad enfawr mewn bywyd gwyllt yn y DU a thramor. Mae wedi gweithio dros sefydliadau fel Greenpeace UK a Greenpeace International, RSPB, Cymdeithas Anialwch Awstralia ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru. Datblygodd ddiddordeb brwd mewn ailwylltio wrth weithio gyda'r Ymddiriedolaethau Natur. Ar hyn o bryd mae'n gadeirydd Maint Cymru sy'n gweithio i atal dinistrio coedwigoedd glaw a'r rôl y mae Cymru'n ei chwarae yn y dinistr hwn. Mae'n hynod angerddol dros adar, ac yn enwedig dros ganu adar.

Gyda chefndir mewn celfyddyd gain a chynhyrchu teledu, mae Rich yn dod ag egni creadigol i Tir Natur. Mae'n angerddol am ddod o hyd i atebion ymarferol i'r argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd ac mae'n canolbwyntio ar ffyrdd o ailgynnau perthynas pobl â natur, sydd yn aml wedi torri. Ganddo ef y daeth ein cysyniad o Ecosystemau Rhyngweithiol, fel ffordd o ddenu cynulleidfa newydd i ailwylltio, gan greu dull deinamig ac ysgogol ar gyfer addysg a chodi arian. Mae'n byw yn Ne Sir Benfro ar dyddyn ble mae'n canolbwyntio ar adfer byd natur, gyda dolydd gwair traddodiadol, pyllau dŵr a gwrychoedd yn rhedeg yn wyllt.

James H.png

James Hitchcock

7.png

Tom Roberts

20250911_105751_edited.jpg

Pamela Noakes

James yw Cydlynydd Eiriolaeth Cymru ar gyfer Rewilding Britain ac mae'n gweithio yn y sector amgylcheddol ers dros 20 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed, gan eu harwain trwy gyfnod o dwf a chaffael Fferm Pentwyn. Sicrhaodd gyllid a datblygu perthnasoedd â rhanddeiliaid, gan gynnal ymgyrchoedd, gwaith eiriolaeth a rhaglenni chyngor i dirfeddianwyr. Mae James yn angerddol am yr angen i gynyddu ein hymdrechion ar gyfer adferiad byd natur, rhywbeth na allwn ei wneud ond drwy fod yn fwy uchelgeisiol a chofleidio prosesau naturiol, pori helaeth/gwylltach ac ailwylltio.

Ar hyn o bryd mae Tom yn gwireddu uchelgais oes i greu gwarchodfa natur fechan trwy adferiad byd natur. Fe brynodd fferm ddefaid 11 erw yng Ngheredigion ac erbyn hyn mae wrthi'n creu pyllau ac yn plannu coed brodorol a dolydd blodau gwyllt – gyda phwyslais ar rywogaethau prin Cymru fel coed poplys duon a breuwydd, ynghyd â'r blodau gwyllt bulwg yr ŷd, melynog y waun, gludlys amryliw, seren yr hydref, penigan y porfeydd (sydd bron wedi diflannu), a llawer mwy. Mae'r warchodfa hefyd yn gartref i ddraenogod sydd wedi gwella digon i'w rhyddhau o'r ysbyty anifeiliaid lleol. Yn ei yrfa flaenorol fe fu Tom yn gwneud rhaglenni dogfen rhyngwladol ac mae ei enw bellach ar dros 100 o ddarllediadau fel cyfarwyddwr/cynhyrchydd. Sefydlodd y cwmni cynhyrchu annibynnol October Films.

A byd natur yn agos at ei chalon ers amser maith, dechreuodd Pamela bryderu pan sylwodd ar y dirywiad mewn bywyd gwyllt, o gaeau mud i ffenestri blaen ceir di-bryfed. Ar ôl prynu ei chartref yn 2013, gwelodd pa mor gyflym y dychwelodd byd natur i'w gardd pan roddwyd y gorau i'r cemegau. Roedd hi wedi clywed Isabella Tree yn siarad am ei gwaith yn Knepp ac yna daeth ar draws Tir Natur – a dyma gyfle i adfer natur ar raddfa'r dirwedd. Roedd hi'n gwybod ei bod am helpu Tir Natur i lwyddo. Mae gan Pamela dros 25 mlynedd o brofiad mewn effaith gymdeithasol ac amgylcheddol mewn elusennau, llywodraeth ac yn y sector preifat, ac mae hefyd yn Ymddiriedolwr Canolfan Gyfreithiol Southwark.

Frances_edited.jpg

Frances Walton (Trysorydd)

Mae Frances yn frwd dros fywyd gwyllt ers erioed ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cynefinoedd naturiol. Yn fwy diweddar, mae'n ymddiddori'n fawr mewn gwylio adar, ac ar wyliau gwylio adar y clywodd Frances am Tir Natur. Roedd hi'n gwybod ei bod am helpu i wireddu'r prosiect uchelgeisiol hwn. Gyda chefndir mewn mathemateg, roedd Frances wrth ei bodd o gael cynnig rôl y Trysorydd, lle caiff gyfuno ei chariad at natur â'i chariad at daenlenni. Bu Frances yn gweithio ym maes addysg oedolion, yn y sector carchardai ac yna i'r Brifysgol Agored. Bellach wedi ymddeol, mae hi'n canolbwyntio ei hegni ar Tir Natur ac ar fyw bywyd mwy cynaliadwy.

Gwirfoddolwyr

12.png

Mae 35+ o wirfoddolwyr gweithgar a brwd yn ein cefnogi, a chanddynt amrywiaeth eang o sgiliau a gwybodaeth. Diolch i chi!

 

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a all ein cefnogi gyda'r canlynol: dylunio gwe, ysgrifennu copi, cyfieithu a'r Gymraeg, a gwaith monitro ac asesu ecolegol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu'r sgiliau hyn, llenwch y ffurflen hon.

Delwedd: Nicos (Nigel Dowsett/ Shutterstock); Darluniau (Katherine Jones Artist)

Tir Natur

Y Beudy

Lanlwyd

Pennant

Ceredigion

SY23 5JH

team@tirnatur.cymru

07929 275137

Tanysgrifiwch i'n rhestr e-bost

Diolch am gyflwyno!

  • Instagram
  • Facebook

Mae Tir Natur yn Sefydliad Corfforedig Elusennol sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr - Rhif Cofrestru 1199300

bottom of page