top of page
JRO_00031.jpg

Mae natur yng Nghymru dan beryg.

Cymru yw un o wledydd gwaethaf y byd am bioamrywiaeth - felly mae'n hanfodol i ni  ddechrau gwella cyflwr ein natur i sicrhau dyfodol gwell i ni gyd.

O ran safon bioamrywiaeth gwledydd y byd, safle Cymru yw 224 allan o 240 - felly mae'n amser am newid

​

Efallai byddai'r ffaith uchod yn synnu rhan fwyaf o bobl sy'n byw yng Nghymru. Wrth ystyried colled bioamrywiaeth o amgylch y byd, bydd llawer ohonom yn meddwl am ddatgoedwigo yn yr Amazon, neu colled o ganlyniad i dwf trefoli rhanbarthau eraill y byd. Bydd rhan fwyaf ohonom ddim yn ystyried effaith ein hunain ym Mhrydain.

 

Am gyfnod rhy hir yn y wlad hon mae natur wedi dirywio. Bellach mae'n rhaid gwneud ymdrech i ymweld â byd natur, yn degyb i fynd i'r sinema, neu'r amgueddfa. Rydym yn gweld rhan helaeth o'n tirwedd gan feddwl mai dyma sut edrychai erioed. 

​

Tra bod llawer o bobl a chymunedau yng Nghymru yn ymdrechu'n i wneud lleisio pryderon dyfodol ein gwlad, mewn gwirionedd, fel gymdeithas, rydym wedi gadael diogelu byd natur i'r cadwraethwyr. Mae'r difaterwch hwn wedi achosi dirywiad cyflym mewn rhywogaethau yn y degawdau diwethaf. 

​

Mae’r problem hyn wedi dod yn enwedig amlwg ers adroddiad Sefyllfa Byd Natur yn 2019. Lluniwyd yr adroddiad hwn gan y 50 o sefydliadau cadwraeth blaenllaw yn y DU – ac wnaeth rhoi darlun clir bod angen i bethau newid. Isod mae rhai o’r canfyddiadau allweddol ar gyfer Cymru.

JRO_00047_edited.jpg

Mae 666 o'n rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu.

O'r 3902 o rywogaethau a aseswyd, mae 73 eisoes wedi'u colli.

MH1029377.jpg

Mae'r gylfinir wedi prinhau o fwy na 68% ers 1995 - yn bennaf oherwydd bod bron pob un o'n cynefinoedd gwlyptir sy'n bwydo i'r gylfinir wedi draenio.

TWH_310112_0003.jpg

Mae rhywogaethau fel llygoden bengron y dŵr a’r wiwer goch a fu unwaith yn gyffredin yn ein tirweddau,  bellach bron â darfod.

​

​

​

​

Turtle Dove.jpg

Mae adar fel bras yr ŷd a’r durtur wedi diflannu o awyr Cymru – gyda’r olaf eisoes wedi dangos adferiad rhyfeddol mewn safle ail-wylltio yn Lloegr.

shutterstock_2157291735.jpg

Mae glöynnod byw wedi gostwng 52% ers 1976.

Mae rhywogaethau sydd angen cynefin arbenigol fel y High Brown Fritillary wedi gostwng dros 75%.

shutterstock_1845168952.jpg

Mae mwy na 30% o rywogaethau mamaliaid tir mewn perygl o ddiflannu’n gyfan gwbl yng Nghymru.

Credydau llun mewn trefn - Dyfrgi (Yr Alban: The Big Picture), Bele'r Coed (Yr Alban: The Big Picture), Curlew (Yr Alban: The Big Picture), Llygoden y Dwr (Yr Alban: The Big Picture), Turtle Dove (Shutterstock), Butterfly (Shutterstock), Draenog (Shutterstock)

Ydy - mae'r ystadegau hyn yn frawychus; ydy maen nhw'n llethol, ond mae ailwylltio yn cynnig gobaith .

​

Gobaith adferiad, gobaith bywyd.

​

Mae’n bryd cael naratif newydd – ail-ddychmygu’r hyn sy’n bosibl ei gyflawni yn ein tirweddau

bottom of page