Ein Meysydd Strategol
Stiwardiaeth y tir: Sicrhau ac adfer safle sylweddol i'w helpu i ffynnu ar ei ffurf fwyaf gwyllt a gwydn. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau lleol i ddiogelu'r diwylliant, yr hanes, y tirnodau a'r Gymraeg. Bydd mynediad agored i'r tir o hyd, felly gallwch weld ailwylltio yn digwydd â'ch llygaid eich hun, gan wybod bod eich cefnogaeth chi wedi helpu i'w wneud yn realiti!
Rhoi egwyddorion ailwylltio ar waith ar raddfa'r dirwedd: Ar ôl gwneud gwaith arolygu, mapio a monitro helaeth, byddwn yn cyflwyno nifer fechan o fridiau gwydn o wartheg, merlod a moch er mwyn creu amrywiaeth o gynefinoedd coll. Bydd hyn yn creu helaethrwydd ac amrywiaeth o fywyd gwyllt, a hefyd yn helpu i adfywio coed a phlanhigion. Byddwn hefyd yn adfer mawndiroedd, yn addasu ffensys ac yn ymchwilio i ailgyflwyno rhywogaethau lle bo hynny'n bosib – gan greu swyddi lleol ar hyd y daith. Gyda'i gilydd, bydd yr ymyriadau hyn yn dal carbon, yn gwella iechyd y pridd a'r dŵr, ac yn gwella gwytnwch y tir a'r ardal o'i gwmpas yn wyneb newid hinsawdd.
​​
Ysbrydoli prosiectau newydd yng Nghymru: Trwy gyfrwng data, gwyddoniaeth dinasyddion, y celfyddydau, ac adrodd straeon, byddwn yn rhannu ein profiadau gyda'r cyhoedd, tirfeddianwyr a llunwyr polisi. Ein nod yw cysylltu a chefnogi rhwydwaith o bobl a phrosiectau sy'n arwain ar y gwaith o adfer byd natur yng Nghymru.

Delweddau: Gwartheg hirgorn (Knepp Wildlands); Ystâd Knepp (Stephen Jenkins)

