top of page
_DSC5237.jpeg
Pool Frog.jpg

Cwestiynau Cyffredin

Os nad yw'r cwestiwn rydych chi'n chwilio amdano i'w weld isod, anfonwch neges at team@tirnatur.cymru ac fe gysylltwn â chi cyn gynted ag y gallwn.​

Pam nad yw'r tir yma'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd?

Fyddwn ni ddim yn defnyddio unrhyw dir cynhyrchiol. Mae'r tir rydyn ni'n ei brynu wedi'i ddominyddu gan laswellt y gweunydd a rhedyn ungoes – rhywogaethau y mae defaid yn osgoi eu bwyta, yn achos y cyntaf, ac sy'n wenwynig iddynt yn achos yr ail – felly ystyrir bod gwerth y tir o ran pori yn wael iawn. Bydd y perchnogion presennol yn dal i fyw yn eu ffermdy ac yn ffermio'u tir cynhyrchiol ger safle Tir Natur. Mae dychwelyd rhywogaethau allweddol i'r tir yn un o gonglfeini ailwylltio, a byddwn yn cyflwyno nifer fechan o wartheg, merlod a moch i'r tir. Heb ddim i ysglyfaethu ar y rhain, bydd rheolwr stoc yn rheoli maint y boblogaeth er mwyn atal gorbori a bydd hynny, yn ei dro, yn cynhyrchu ychydig bach o gig eidion a phorc o ansawdd uchel. Bydd effaith ailwylltio'r tir hwn yn gwella sicrwydd bwyd ar dir ffermio cynhyrchiol yn bellach i lawr y dalgylch, gan fod planhigion a mawn iach yn arafu llif y dŵr o'r tir – a hynny'n lleihau perygl llifogydd – tra bydd y cynnydd mewn peillwyr, er enghraifft gwenyn a gloÿnnod byw, yn cynorthwyo i dyfu cnydau a phorthiant mewn llefydd eraill.

Oes yna ddim digon o safleoedd ailwylltio yng Nghymru eisoes?

Yn wahanol i'r Alban a Lloegr, ar hyn o bryd nid oes yr un safle ailwylltio ar raddfa fawr yng Nghymru, er bod Cymru'n o’r gwledydd ble mae byd natur wedi dioddef y colledion mwyaf yn y byd. Eto i gyd, mae gofyniad ar Gymru i gyrraedd targed a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn COP15 ar gyfer Bioamrywiaeth, sef atal a gwrthdroi'r colledion i fyd natur ar 30% o'n tir a'n dyfroedd erbyn 2030 a'r tu hwnt. Ond rydym yn bell ar ei hôl hi yn hyn o beth. Safle Tir Natur fydd y cyntaf yng Nghymru i ailwylltio ar raddfa fawr – a bydd yn lasbrint ar gyfer mwy o brosiectau adfer byd natur ar hyd a lled y wlad. Ein nod yw dangos potensial ailwylltio fel ymateb fforddiadwy i'r argyfwng natur yng Nghymru, ymateb y mae modd ei roi ar waith ar raddfa fawr ac sy'n dod â manteision i bobl Cymru ac economi cefn gwlad.

Pa mor hir tan fydd bywyd gwyllt yn dychwelyd?

Mae'n debygol y gwelwn rywfaint o welliannau o ran planhigion o'r gwanwyn cyntaf ar ôl prynu'r tir, ond fe ddaw'r newidiadau mawr ar ôl cyflwyno ein hanifeiliaid pori naturiol – nhw fydd yn achosi'r aflonyddwch a fydd, yn ei dro, yn creu cartrefi newydd i blanhigion ifanc a phryfed yn gyflym iawn. Rydym yn disgwyl gweld cynnydd yn niferoedd yr anifeiliaid o fewn 5-10 mlynedd.

Pa risgiau sydd i gymdogion a chymunedau lleol o ailwylltio?

Mae gan ein safle ffensys i gadw ein hanifeiliaid pori naturiol o fewn ein ffiniau. Ein gobaith yw y byddwn, mewn amser, wedi dangos manteision a chyfleoedd ein gwaith i gymdogion a chymunedau lleol. Mae ein ffordd ni o ailwylltio yn dathlu rhywogaethau lleol a threftadaeth leol, dwy elfen sy'n cydblethu, ac yn annog mynediad agored a gwarchodaeth y gymuned o'r tir. Mae hefyd yn cefnogi twristiaeth ecolegol ynghyd â llu o swyddi i weithwyr medrus yn y cyffiniau.

Sut fyddwch chi'n sicrhau eich bod yn parchu'r Gymraeg?

Rydym yn sefydliad dwyieithog, a bydd yr holl gyfathrebu cyhoeddus ac arwyddion i’r cyhoedd yn gwbl ddwyieithog. Yn fewnol, mae ein gweithgorau ar gyfer y Gymraeg a’r gymuned yn helpu i sicrhau cydraddoldeb i’r Gymraeg ym mhopeth a wnawn. Rydym hefyd yn gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i ddatblygu ein Cynnig Cymraeg. Mae ein cenhadaeth yn mynd y tu hwnt i ecoleg; mae wedi’i wreiddio mewn cymuned. Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o hunaniaeth leol ac o ethos Tir Natur. Rydym yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol i sicrhau bod diwylliant, iaith a thirnodau hanesyddol y tir yn cael eu mapio, eu dathlu a’u gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym hefyd yn eich gwahodd chi i rannu eich hanesion o’r ardal. Yn hollbwysig, bydd pob swydd y bydd Tir Natur yn ei chreu yn gofyn am y Gymraeg fel sgìl hanfodol, gan gydnabod yr iaith fel rhan o fywyd a gwaith y fro.

A fydd pobl yn cael mynediad i'r tir?

Yn bendant. Mae mynediad agored i'r tir eisoes, a wnawn ni ddim newid hynny. Byddwn yn gwahodd ymwelwyr ar deithiau tywys o'r safle gyda ni, ac i nifer o weithgareddau dydd gydol y flwyddyn, o gynnal arolygon ecolegol i wneud gwaith cynnal a chadw ar y tirnodau. Gallwch gofrestru i gael rhagor o wybodaeth drwy ein cylchlythyr (gweler isod).

Sut mae ailwylltio'n wahanol i gadwraeth?

Mae cadwraeth fel arfer yn canolbwyntio ar warchod rhywogaethau neu gynefinoedd penodol, yn aml drwy gyfrwng gwaith rheoli dros amser. Er bod hwn yn waith pwysig, weithiau gall fod o anfantais i iechyd ecosystemau ehangach. Mae hefyd yn dibynnu'n helaeth ar fewnbwn gan bobl ac ar gyllid, ac nid yw hynny o anghenraid yn gynaliadwy bob amser. I'r gwrthwyneb, mae ailwylltio yn gadael i natur dorri ei chwys ei hun unwaith yn rhagor. Mae'n caniatáu i ecosystemau esblygu'n naturiol, heb fawr ddim ymyrraeth. O ganlyniad, gall fod yn anodd rhagweld pa rywogaethau fydd yn dychwelyd a sut fydd y dirwedd yn newid dros amser.

Sut mae ailwylltio'n wahanol i ffermio natur-gyfeillgar?

In all types of farming, the main output is food, and stock and land are managed in such a way as to maximise food production. In rewilding, the main output is nature - not food.

Delwedd: Broga mewn pwll (Matthew Smith, Shutterstock), Darluniau (Katherine Jones Artist)

​

Tir Natur

Y Beudy

Lanlwyd

Pennant

Ceredigion

SY23 5JH

​

team@tirnatur.cymru

​

07929 275137

​

Tanysgrifiwch i'n rhestr e-bost

Diolch am gyflwyno!

  • Instagram
  • Facebook

Mae Tir Natur yn Sefydliad Corfforedig Elusennol sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr - Rhif Cofrestru 1199300

bottom of page