top of page

Beth yw Ail-wylltio?

IMG_9538.jpeg

"gryfhau ein ecosystemau"

Ail-wylltio, yn syml, yw mynd ati i gryfhau ein hecosystemau drwy ail-gyflwyno prosesau naturiol iddynt. Yn nghanol yr argyfyngau hinsawdd a bywyd gwyllt, mae’n allweddol cydnabod sut mae’r prosesau allweddol hyn yn hollbwysig i’n lles ni a chenedlaethau’r dyfodol.  

​

Fodd bynnag, mae yna amryw o ffyrdd y gallem adfer y tir, yn dibynnu ar sefyllfa’r ardaloedd dan sylw. Mae ffactorau megis defnydd tir presennol, ecoleg, diwylliant a threftadaeth ac economïau lleol yn effeithio’r ffordd orau i ail-wylltio. Er enghraifft, ym mynyddoedd Carpathia neu Barc Cenedlaethol Yellowstone, lle’r mae’r ecosystemau heb eu dirywio, gall ail-wylltio fod mor syml ag ail-gyflwyno rhywogaethau allweddol yn ôl i’r tir.

​

Yma yng Nghymru, lle mae cyflwr ein hecosystemau wedi dirywio’n ddifrifol dros y degawdau diwethaf, elfen allweddol o ail-wylltio bydd creu cynefinoedd amrywiol, cymhleth a deinamig a fodolai yma tan ‘mond canrif yn ôl, a gallem gyflawni hyn yn syml drwy wneud newidiadau bychain i’n systemau pori. Yna, gallwn ategu at hyn drwy ailgyflwyno rhywogaethau coll megis afancod a bele’r coed. Fodd bynnag, mae’r nod cyffredinol yn aros yn un fath, sef adfer yr ecosystemau ar gyfer ein lles ni a bywyd gwyllt.

shutterstock_1695321481.jpg

"anifeiliaid pori mawr"

Yma yn Tir Natur, pwysleisiwn y rôl allweddol y mae anifeiliaid pori mawr yn eu chwarae i siapio ac adfer ecosystemau - ac felly unrhyw brosiect ail-wylltio. Mae bron pob prosiect ail-wylltio yn y DU yn cynhyrchu cig, sy’n profi bod cadwraeth a ffermio yn gallu gweithredu llaw wrth law.

​

Os feddyliwch am dirweddau naturiol o amgylch y byd, boed yn Affrica, Canada, Gogledd America neu Ddwyrain Ewrop, y peth cyntaf feddyliwn amdanynt yn aml yw’r anifeiliaid mawr sy’n gysylltiedig â nhw. Boed yn elc, ceffylau gwylltion, byffalo, sebras neu antelop; mae’r anifeiliaid hyn yn chwarae rhan hanfodol i gynnal bioamrywiaeth eu cynefinoedd. 

​

Yn hanesyddol yn y DU, yr anifeiliaid mawr hyn fyddai’r tarpan, aurochs (gwartheg gwyllt) baedd gwyllt, ceirw, yn ogystal â buail ac elc. Mae gan bob un o’r rhain gilfach; maent yn pori ac yn gwreiddio mewn gwahanol ffyrdd, gan greu mosaig o gynefinoedd yn yr ecosystem.

​

Os byddwn yn caniatáu tyfiant naturiol heb yr anifeiliaid mawr hyn, a heb unrhyw reolaeth (h.y. gadael y tir heb weithredu arno) yna byddai planhigion penodol yn dod i ddominyddu’r ecosystemau. Bydd bioamrywiaeth glaswelltiroedd yn lleihau, efo ‘mond ychydig yn medru goroesi.

​

Byddwn yn gweld planhigion sy’n seiliedig ar risomau fel rhedyn yn llenwi llefydd gwag yn gyflym, gan drechu llwyni a blodau. Felly, trwy adael y tir heb reolaeth byddwn yn gweld canopi caeëdig, ac ardaloedd tlawd o rywogaethau. Dyma’n union yr hyn rydym yn bwriadu ei osgoi wrth ail-wylltio.

Knepp Exmoor pony Copyright Sam Rose 2021 1500px long edge 100pc 300dpi sRGB 4299.jpg

"ail-gyflwyno rhywogaethau coll"

Dyma pam mae ffermio ac ail-wylltio yn mynd law yn llaw yn y DU. Mae ein hanifeiliaid brodol domestig wedi’u magu o’u cefndryd gwyllt, a thrwy ail-wylltio ein tiroedd efo dwyseddau stocio is (h.y. dwyseddau hanesyddol), byddant yn gweithredu fel eu hynafiaid gwyllt unwaith yn rhagor.

​

Gwartheg corniog brodol bydd yn cyflawni rôl yr aurochs, merlod brodorol rôl y tarpan a moch brodorol rôl y baedd gwyllt. Bydd ceirw coch ac iyrchod yna'n cwblhau’r system bori. Y pum anifail hyn yw’r craidd unrhyw brosiect ail-wylltio llwyddiannus, a chyfeiriwn atynt fel ‘rheoleiddwyr ecosystemau’.

​

Tra bod yr anifeiliaid hyn yn hanfodol i weithrediad ecosystemau, mae’r un mor bwysig rheoli eu niferoedd. Os bydd gormod ohonynt, yna bydd gorbori yn lleihau bioamrywiaeth. Mae cydbwysedd yn hanfodol er mwyn i fyd natur ffynnu, ac yn un sy'n cael ei gynnal orau gan ffermio.

​

Yn ogystal a’r system bori naturiol hon, mae ail-wylltio hefyd yn cynnwys ail-gyflwyno rhywogaethau coll; nifer ohonynt yn greaduriaid a gafodd eu hela i ddifodiant yma. Mae’r rhain yn cynnwys yr afanc, bele’r coed, gwiwerod coch, yr eryr aur, yr eryr cynffon wen a phelicanod.

picfair-07269074-wild-boar-in-blooming-heather.jpg

"osod y syflaen i brosesau naturiol gymryd yr awenau"

Cyn cychwyn ail-gyflwyno unrhyw anifail, mae angen gwneud ymyriadau cychwynol i osod y sylfaen i brosesau naturiol gymryd yr awenau.

 

  • Cael gwared ar ffensys mewnol a chodi ffens perimedr. Byddai angen i hon fod yn ffens uchel er mwyn medru dal y ceirw a'r moch!

​

  • Cael gwared ar unrhyw rwystrau ddraenio i adfer gwlypdiroedd.

​

  • Plannu planhigion, yn enwedig lle mae absenoldeb rhywogaethau penodol. Mae hyn yn bwysig oherwydd rydym wedi dirywio cyflwr y tir cymaint fel nad oes llawer o blanhigion bellach yn bodoli mewn sawl rhanbarth y wlad.

​

  • Bydd rhaid paratoi'r tir, gan ddefnyddio ffyrdd addas ar gyfer y dirwedd leol. Mae gorbori wedi creu glaswelltiroedd sy’n brin o rywogaethau, a bydd yn bwysig dwyn unrhyw fanciau hadau cudd i’r golwg er mwyn rhoi cyfle iddynt dyfu. Gallwn gyflawni hyn efo dulliau mecanyddol neu drwy ddefnyddio moch.

​

  • Cael gwared ar faetholion. Mae nifer o’n tirweddau wedi gweld gwrtaith cemegol neu organig yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ac yn gyson ers blynyddoedd lawer. Gall cymryd blynyddoedd i’r maetholion hyn drwytholchi allan o’r pridd i'r pwynt bod proffil cemegol y pridd yn niwtral unwaith eto.

​

  • Gwaredu rhywogaethau goresgynnol. Cymryd y camau i gael gwared ar unrhyw rywogaethau ymledol, anfrodorol os ydynt yn bresennol.

​

  • Pyllau dŵr dwfn a bas - dylwn ail-greu’r rhai rydym wedi colli dros y degawdau diwethaf.

IMG_9502.jpeg

Felly, dyma i chi ail-wylltio. Os ydym yn mabwysiadu systemau pori mwy naturiol, nid yn unig y byddwn yn parhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, i safon uchel, byddwn yn medru adfer blodau, llwyni, coed, trychfilod, adar a mamaliaid a fodolai am ganrifoedd ochr yn ochr ȃ’n cyndeidiau.

_DSC6019.jpeg

Credydau llun mewn trefn - Dryw (Shutterstock), Merlen Exmoor (Dr Sam Rose), Baedd Gwyllt (Picfair), Llyn (Knepp Wildlands), Llyn a stoc gwyllt (Knepp Wildlands)

bottom of page