Cefnogwch Ein Gwaith
Pobl yw'r grym y tu ôl i Tir Natur
​​
Os yw eich rhodd yn £10 neu'n £10,000, pobl fel chi sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd gwyllt, natur a chymunedau Cymru.
Daw'r rhan fwyaf o'n cyllid gan unigolion sy'n llawn angerdd a gobaith am y dyfodol ac sydd am wneud cyfraniad ystyrlon i wireddu'r newid maen nhw'n daer am ei weld.
​​
Diolch o waelod calon i bawb sydd wedi ein cefnogi hyd yn hyn. ​

Bydd eich rhodd yn cefnogi:
-
Adfer brithwaith rhyfeddol o rywogaethau brodorol a chynefinoedd, gan roi'r lle sydd ei angen ar fywyd gwyllt i ffynnu unwaith yn rhagor.
-
Adfer mawndiroedd hanfodol sy'n storio carbon yn y ddaear, yn cyfoethogi ein pridd, ac yn cadw dŵr ar y tir – gan ddiogelu cymunedau lleol rhag llifogydd a thanau gwyllt.
-
Creu lloches wyllt i bobl ei darganfod, ble gallant gysylltu â byd natur a chael hyd i lonyddwch ym myd natur.
-
Prosiectau a gweithgareddau sy'n ein galluogi i rannu ein gwaith ag eraill ac ysbrydoli Cymru Wylltach i bawb.
"Gallwn chwarae rhan uniongyrchol mewn creu dyfodol ble mae lle canolog i fyd natur. Mae'n beth hyfryd sy'n rhoi cymaint o lawenydd a bydd Tir Natur yn dreftadaeth arbennig i'n plant a'n hwyrion."
- Rose a Steve
Rydym yn ddiolchgar am gyfraniadau ar unrhyw lefel:
-
​​Cyfrannwch swm o'ch dewis bob mis yma
-
Gwnewch rodd untro yma
-
Noddwch sgwâr o dir am £50 drwy Crowdfunder
-
Dewch yn Aelod Sefydlu Cymunedol am £5000 neu fwy
-
Cysylltwch â ni i drafod partneriaeth gorfforaethol drwy team@tirnatur.cymru
-
Llenwch y ffurflen hon i roi cefnogaeth anariannol neu i ymuno â'n tîm o wirfoddolwyr

