CROESO I TIR NATUR
Wedi’i sefydlu yn 2022, mae Tir Natur wedi sefydlu ei hun fel llais blaenllaw ar gyfer adfer ecosystemau ar raddfa fawr yng Nghymru.
Mae gennym gyfle nawr i sicrhau ein safle arddangos blaenllaw sy’n cynnwys dros 1500 erw o dir yn barod ar gyfer dyfodol gwylltach.
Bydd ein gwaith ym mryniau Cymru yn dod â buddion di-ben-draw, o ddal dŵr ar y tir a diogelu cymunedau a ffermydd i gloi carbon trwy adfer mawndiroedd ac adfywio naturiol. Gyda natur yn rheoli, bydd bywyd gwyllt Cymru yma yn ffynnu. Derw a Dwr-Gi, Bedw ac Afanc - o'r pridd i'r awyr bydd natur yn dychwelyd.
Yn hollbwysig, byddwn yn arddangos pwysigrwydd gwartheg, merlod a moch wrth adfer ecosystemau, ac felly’r rôl y gall ffermio ei chwarae.
DARLLENWCH EIN BLOG GWYLLT CYMRU
NEGES GAN EIN LLYSGENNAD, IOLO WILLIAMS
“Cymru yw un o’r gwledydd sydd wedi disbyddu fwyaf o ran byd natur ar y blaned ac er gwaethaf ymdrechion cadwraethol, mae ein bywyd gwyllt yn dal i ddirywio.
Yn ystod fy oes, rwyf wedi gweld dirywiad enfawr mewn rhywogaethau fel draenogod, cornchwiglod a bras melyn.
Os ydym am drawsnewid pethau, rhaid inni ddangos mwy o uchelgais. Rhaid inni edrych ar adfer ecosystemau cyfan ar raddfa, fel y gall natur ofalu amdano'i hun.
Rwy'n gyffrous iawn am gynlluniau Tir Natur i ddangos hyn yng Nghymru!"
Credydau Delwedd: Gwartheg (Dr Sam Rose); pob llun celf (Katherine Jones Artist)