top of page
shutterstock_1776331922.jpg

Ail-wylltio ar Raddfa Fach

Mae yna ddyletswydd ar bawb i achub byd natur. Yma, drychwn ar ail-wylltio ar raddfa fach, ar ddarnau o dir sy’n rhy fach i gynnwys anifeiliaid pori - ac sydd angen rheolaeth fwy dynol i adfer bywyd gwyllt yr ardal.

Gwahaniaethu rhwng 'ail-wylltio' ac 'ail-wylltio ar raddfa fach'

​Yn yr adran 'Beth yw Ail-wylltio?' wnaethom ni bwysleisio prif elfennau ail-wylltio, gyda systemau pori naturiol yn allweddol i adfywiad ecosystemau amrywiol a deinamig. Mae’r lefelau is yma o anifeiliaid pori yn cadw ein hecosystemau mewn cydbwysedd, fel y maent wedi'i wneud am filiynau o flynyddoedd. Mae effaith yr anifeiliaid yma ar fioamrywiaeth y tir yn well nag unrhywbeth y gallai dyn obeithio ei wneud drwy ddefnyddio dulliau eraill.

 

Felly, gall ail-wylltio gael ei gyflawni mewn unrhyw ardal sy'n addas (digonol)l ar gyfer lefelau isel o wartheg, merlod, ceirw a moch/baeddod i grwydro'n rhydd. Nawr, o ystyried gall un mochyn aredig hyd at 60 erw o dir y flwyddyn, a bod y dwysedd stocio o lysysyddion sydd eu hangen ar gyfer ail-wylltio naturiol yn isel - mae angen arwynebedd tir rhesymol o 200 erw ar gyfer prosiect ail-wylltio llwyddiannus. Dyna beth mae Tir Natur am ei wneud - prynu darn o dir o'r maint hwn ac arddangos ail-wylltio, yn y gobaith y bydd hyn yn ysbrydoli eraill. Ond, y gobaith yn y pendraw byddai hybu ffermwyr i ddod ynghyd i ail-wylltio ar raddfa fwy. O 200 erw hyd at filoedd o erwau, bydd cryfder ecosystemau a phrosesau naturiol yn cynyddu, gan gynyddu sicrwydd safon bywyd cenedlaethau'r dyfodol - a dyma beth yw ein prif nod.

 

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw holl dir Cymru yn cael ei reoli ar gyfer ffermio. Mae’n bwysig nad ydym yn wahardd unrhyw un wrth i ni adfer y wlad, ond ar yr un pryd ni allwn leihau na gwanhau gwir ystyr ail-wylltio – sef adfer ecosystemau fel y gall natur ofalu amdani’i hun. Mae ail-wylltio, hyd yn oed ar raddfa fach, yn ddull o ail-gyflwyno’r prosesau naturiol a grewyd gan ein hanifeiliaid pori gwyllt o fewn ein hecosystemau 'slawer dydd.

 

Mae hwn yn bwysig ei nodi - gan fod y gair ‘ail-wylltio’ yn aml yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio amryw o ganlyniadau cadarnhaol i natur. Mae ail-wylltio ar raddfa fach yn cwmpasu ystod ehangach o lawer o gamau sy'n dibynnu ar ymyriadau dynol - ond mae eu dylwnawad ar gynefinoedd amrywiol a deinamig wrth galon ein hethos.

IMG_9535.jpeg

Sut olwg sydd ar ailwylltio ar raddfa fach?

Yn yr adran ' Beth yw Ailwylltio?', fe wnaethom nodi beth yw'r 'ymyriadau cychwynnol' - rydym yn galw'r rhain yn 'gosod y sylfeini i brosesau naturiol gymryd drosodd'. Mae llawer o'r camau hyn hefyd yn berthnasol i ail-wylltio ar raddfa fach.  

 

  • Cael gwared ar ffensys mewnol.   
     

  • Cael gwared ar unrhyw rwystrau draenio i adfer gwlyptiroedd gweithredol.

 

  • Plannu chwipiau a hau hadau, lle mae absenoldeb amlwg o rywogaethau penodol. Adfywiad naturiol fydd y gosodiad diofyn bob amser, ond y gwir amdani yw ein bod wedi disbyddu byd natur cymaint yn y wlad hon, fel nad oes rhai rhywogaethau i’w hadfywio. Bydd hwn yn safle-benodol.  

 

  • Paratoi'r ddaear. Mae gorbori wedi creu glaswelltiroedd clos iawn sy’n brin o rywogaethau, a bydd yn bwysig torri’r glastir hwn i fyny, ac amlygu unrhyw fanc hadau cudd, er mwyn rhoi hwb i aildyfiant naturiol. Gellid gwneud hyn trwy gylchdroi mecanyddol, neu ein dewis personol ni, gwreiddio mochyn. 

 

  • Cael gwared ar faetholion – Mae llawer o’n tirweddau wedi gweld gwrtaith cemegol neu organig yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ac yn gyson ers blynyddoedd lawer. Mae hyn yn dirlenwi'r pridd â maetholion, a gall gymryd peth amser i'r maetholion hyn drwytholchi allan o'r pridd i'r pwynt bod proffil cemegol y pridd hwnnw'n niwtral. Gallai gormod o faetholion yn y pridd arwain at aildyfiant gwael o rywogaethau.

  

  • Gwaredu rhywogaethau goresgynnol  – Cymryd camau i gael gwared ar unrhyw rywogaethau goresgynnol, estron os ydynt yn bresennol.

   

  • Pyllau a Chrafion - ni fydd natur yn cloddio'r pyllau a'r sgrapiau sydd wedi'u llenwi dros y blynyddoedd.   

 

P'un ai os oes gennych ddegau o erwau neu ardd fechan, bydd unrhyw gamau i adfer byd natur yn hollbwysig wrth symud ymlaen. Os wnawn ni gyd newidiadau synhwyrol, y gobaith yw y daw mwy o bobl i feddwl yn wahanol am sut y gallwn ddod â natur yn ôl i'n tirweddau ac i'n bywydau. Mae gwneud pethau bychain megis creu pwll dŵr yn eich gardd, neu ganiatáu i lawnt ddatblygu’n gynefin sy’n llawn blodau gwyllt wneud byd o wahaniaeth. Mae’n brofiad anhygoel gweld gallu byd natur i adfer ac i ddychwelyd i fannau bach, os caiff y cyfle i wneud.

 

Os oes gennych dir, ond dim digon ar gyfer porwyr i grwydro’n rhydd yn barhaol, yna ystyriwch gadw'r anifeiliaid hynny ar y tir am gyfnodau byrrach, a’u symud ymlaen ac oddi arno. Bydd dod â gwartheg brodorol i bori, neu foch i wreiddio am rai wythnosau yn y gaeaf, yn dod â llawer o’r manteision y mae ail-wylltio yn eu cynnig.

 

Yma yn Tir Natur, nid dim ond prynu tir i arddangos ail-wylltio yw ein nod, ond hefyd i brynu parseli llai o dir ar gyfer ail-wylltio ar raddfa fach. Bydd hyn yn caniatáu i ni roi cynnig ar wahanol ddulliau o greu cynefinoedd deinamig amrywiol a strwythur iddynt, a byddwn yn rhannu'r canfyddiadau hyn gyda chi! Gyda chymorth ein rhwydwaith Wilder Wales, rydym yn gobeithio cyd-gysylltu ag eraill a chanfod yr hyn sy'n llwyddo mewn mannau eraill. Gall y prosiectau hyn, ar raddfa lai, weithredu fel meinwe gyswllt ar gyfer meysydd mwy o adferiad byd natur, a dyma'r hyn yr ydym yn gobeithio’i gyflawni.

shutterstock_1857510139.jpg

Credydau llun mewn trefn - Goldfinch (Shutterstock), Wildflowers (Shutterstock)

Gwarchodfa Natur Coed Underhill

Dyma weminar arbennig am Warchodfa Natur Coed Underhill, sy'n arddangos yr hyn y gellir ei wneud ar raddfa lai.

bottom of page