top of page
Species Reintroduction: Text
shutterstock_1042964272.jpg

Mae’n debygol daeth y gair ‘Eryri’ o eryrod, a fu’n hedfan dros ein gwlad canrifoedd yn ôl.

Bydd Tir Natur yn eirioli dros ail-gyflwyno rhywogaethau coll lle bo hynny’n ymarferol ac yn briodol – ond yn bwysicach oll, byddwn yn codi ymwybyddiaeth bod yr anifeiliaid hyn yn rhan o hanes naturiol a diwylliannol Cymru – a bod ganddynt bob hawl i fod yn rhan o’i dyfodol.

 

Rydym yn gobeithio gweld eryrod aur uwchben Eryri unwaith eto ac afancod yn ein hafonydd. Fodd bynnag, byddai unrhyw ail-gyflwyno yn digwydd ‘mond ar ôl astudiaethau dichonoldeb helaeth a chefnogaeth gan gymunedau lleol. Mae’r dulliau a ddefnyddiwyd gan Eagle Reintroduction Wales, Welsh Beaver Project a'r Pine Marten Recovery Project yn rhagorol. Cliciwch ar y dolenni i ddarganfod mwy amdanyn nhw!

 

Isod mae rhai o'r rhywogaethau sydd bellach wedi'u colli o Gymru. O'r top i'r gwaelod dyma'r afanc, bele'r coed, y wiwer goch, y gath wyllt, yr eryr cynffon wen (eryr y môr), y baedd gwyllt, llygoden y dŵr, y craen, yr elc, yr eryr aur, y pelican dalmataidd, y crëyr gwyn a'r buail.

Ail-gyflwyno Rhywogaethau
Coll

Rydym eisoes wedi trafod yr anifeiliaid pori mawr sydd mor hanfodol i reoli ecosystemau – fodd bynnag, mae llawer o rywogaethau eraill a fyddai unwaith wedi byw yma yng Nghymru nad ydynt yn bodoli yma mwyach. 

Credydau llun mewn trefn - Dalmatian Pelican (Shutterstock), Beaver Pine Marten Red Squirrel Wildcat White-tailed Eagle (Yr Alban: The Big Picture), Wild Boar (Picfair), Water Vole Cranes (Yr Alban: The Big Picture), Elk (Shutterstock) , Eryr Aur (Yr Alban: The Big Picture), Dalmatian Pelican (Shutterstock), White Storks Bison (Shutterstock)

bottom of page