
Rhodd Mewn Ewyllys
Gadewch Gymru wylltach i genedlaethau'r dyfodol gyda rhodd yn eich ewyllys.
Mae rhai o'r rhoddion mwyaf arwyddocaol y gallwn eu rhoi yn rhai sy'n cael effaith ymhell y tu hwnt i'n hoes ein hunain.
Mae angen amser ar natur. Mae coed yn cymryd degawdau i aeddfedu; mae afonydd yn cymryd amser i adfer, ac mae angen mannau diogel, gwarchodedig ar fywyd gwyllt i ddychwelyd yn raddol a ffynnu.
Mae rhodd yn eich ewyllys yn helpu i roi'r amser a'r lle sydd eu hangen ar natur i adfer, gan sicrhau bod Cymru'n dod yn fwy gwyllt a gwydn er mwyn y rhai a ddaw ar ein hôl.
Mae gadael rhodd yn ffordd bwerus o wneud gwahaniaeth. Mae'n weithred o obaith ac yn ymrwymiad i ddyfodol lle caiff ein treftadaeth naturiol ei gwarchod a'i chryfhau.
.jpg)
"Rwy'n falch o gofio Tir Natur yn fy ewyllys. Mae'n gysur gwybod y gallaf wneud gwahaniaeth positif ar ôl i mi fynd." - Sheila
Sut i adael rhodd
Mae rhoi rhodd yn eich ewyllys yn syml. Pan fyddwch chi'n llunio eich ewyllys, ac ar ôl ystyried teulu a ffrindiau, ychwanegwch Tir Natur. Gall y manylion canlynol fod yn ddefnyddiol: Tir Natur, rhif elusen gofrestredig 1199300, Moat Farm, Trimsaran, Cydweli, Dyfed SA17 4EL Rydym yn gwerthfawrogi pob rhodd. Mae'r rhai a dderbynnir at 'ddibenion elusennol cyffredinol' yn arbennig o hanfodol i'n galluogi i ddefnyddio'r arian lle mae eu hangen fwyaf ar y pryd, i gael yr effaith fwyaf posib. Efallai yr hoffech ddewis gadael canran o'ch ystâd neu swm penodol. Mae'r rhan fwyaf o roddion elusennol a amlinellir mewn ewyllys yn ddi-dreth. Rydym yn eich cynghori i ymgynghori â chyfreithiwr i sicrhau bod eich ewyllys yn adlewyrchu eich dymuniadau'n llawn, yn gyfredol ac yn gyfreithiol gadarn.
Gadael tir neu eiddo
Weithiau mae pobl yn ystyried gadael tir neu eiddo i elusen. Os ydych chi'n ystyried cynnig mor hael, rydym yn ddiolchgar iawn. Mae yna lawer o agweddau i'w hystyried a byddem yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallech gysylltu â ni ymlaen llaw. Hoffem sicrhau bod gennym yr adnoddau ar gael i dderbyn eich rhodd yn unol â'ch dymuniadau a'n hamcanion elusennol.
Cyfyngu ar rodd
Mae eich ewyllys yno i sicrhau bod eich dymuniadau yn cael eu parchu ac efallai hoffwch gyfyngu eich rhodd i ddiben penodol. Os oes gennych amodau neu ddymuniadau ynghlwm wrth eich rhodd, mae’n bwysig eich bod yn trafod eich dymuniadau gyda ni wrth ysgrifennu eich ewyllys fel ein bod ni’n gallu sicrhau y byddwn yn gallu gwireddu eich dymuniadau.
Gyda'n gilydd, gallwn hau hadau Cymru wylltach
I gael rhagor o wybodaeth am adael rhodd yn eich ewyllys, neu i drafod eich bwriadau, cysylltwch â gwenni@tirnatur.cymru, a fydd yn hapus i siarad yn gyfrinachol a heb unrhyw rwymedigaethau.

Images: Crane Scotland the Big Picture; Children Shutterstock; Teasels and Wildcat Katherine Jones Illustration
