top of page
shutterstock_2372071357.jpg

Dewch yn Gefnogwr Corfforaethol

Helpwch ni i newid dyfodol natur yng Nghymru.

Rydym yn gwahodd cwmnïau i gefnogi ac ymuno â ni ar y daith i ddod â bywyd gwyllt yn ôl, gweithio gyda chymunedau lleol, ac ysbrydoli eraill yng Nghymru a thu hwnt.

Byddwch chi’n helpu i ni:

● Adfer cynefinoedd a mawndiroedd

● Gwarchod rhywogaethau dan fygythiad

● Ysbrydoli pobl i gysylltu â natur

● Gweithio gyda chymunedau lleol i greu gwydnwch amgylcheddol hirdymor

● Dathlu hanes, iaith a diwylliant Cymru fel rhan annatod o'n tirwedd

 

Mae angen gobaith ar fywyd gwyllt Cymru. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn wireddu hyn.

Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Tir Natur drwy ein rhoddion o’r tâl bagiau plastig yng Nghymru. Mae gwaith y sefydliad elusennol i ddiogelu ac adfer natur yng Nghymru yn hynod bwysig, ac rydyn ni’n falch y bydd yr arian hwn yn helpu i warchod y llefydd arbennig hyn ar gyfer
cenedlaethau’r dyfodol.

Mark Neale, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Mountain Warehouse

1D4_0276.jpg

Os hoffech drafod gwneud rhodd ar ran eich cwmni, anfonwch e-bost at gwenni@tirnatur.cymru

Hoffem ddiolch i'r cefnogwyr canlynol. 

MW-LOGO-576x576.jpg
ai-web-Patagonia_Belwe_Black.png
“Rydym yn hynod falch o gefnogi Tir Natur a phrosiect adfer ecosystem yng Nghymru sydd â’r potensial i fod yn drawsnewidiol i bobl, cymunedau a natur ledled y wlad.”

- Café Notos

Images: Otter Shutterstock; Piglets Scotland the Big Picture; Teasels and Wildcat Katherine Jones Illustration

bottom of page