top of page

Digwyddiadau

Camwch i mewn i safle ailwylltio mwyaf Cymru a gweld adferiad natur ar waith.

​

O ddiwrnodau gwirfoddoli ymarferol i deithiau cerdded, mae ein digwyddiadau'n cynnig cyfle i gysylltu â'r dirwedd a bod yn rhan o'i dyfodol.

​

Mae gofalu am ein cymuned sy'n tyfu yr un mor bwysig â gofalu am y tir

Barn owl flying.png

10/12/26

Diwrnod Gwirfoddoli

Trwsio ffensys, gofal treftadaeth ac ail-gynnau tân ar aelwyd Brithdir.

Bydd y gweithgareddau'n cynnwys atgyweirio ffensys, gofalu am nodweddion hanesyddol, a chasglu o amgylch aelwyd Brithdir sydd wedi'i hailgynnau i ddathlu hanes a thraddodiadau'r lle arbennig hwn. Cyfle i gysylltu â natur, diwylliant a chymuned.

Nid oes angen unrhyw sgiliau nac arbenigedd blaenorol.

​

Cofrestrwch eich lle yma.​

22/1/2027

Diwrnod Gwirfoddoli

Gofal treftadaeth, gosod arwyddion, gwylio eogiaid, tynnu pinwydd.

Gall gweithgareddau gynnwys cynnal a chadw nodweddion treftadaeth, monitro eogiaid yn yr afon, gwella arwyddion i ymwelwyr, a chael gwared ar sbriws Sitka i gefnogi adfer cynefinoedd brodorol. Cyfle gwych i ddysgu mwy am y tir wrth wneud gwahaniaeth go iawn.

Nid oes angen unrhyw sgiliau nac arbenigedd blaenorol.

​

Cofrestrwch eich lle yma

19/2/27 - 26/2/27

Diwrnod Gwirfoddoli

​Plannu coed ar hyd yr afon Doethie 

Ymunwch â ni am ddiwrnod ymarferol o helpu i blannu coed brodorol ar hyd Afon Doethïe, gan greu cynefin hanfodol i fywyd gwyllt, gwella iechyd yr afon, a chefnogi adferiad hirdymor y dirwedd arbennig hon.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

​

Cofrestrwch eich lle yma

20/3/2027

Diwrnod Gwirfoddoli

Cyhydnos

Diwrnod o glirio, cynnal a pharatoi ar gyfer dathliad cymunedol yn y prynhawn, wrth i'r gaeaf ildio i'r gwanwyn.

​

Cofrestwch eich lle yma

Deer.png

Illustrations by Katherine Jones Artist

IMG_9999_edited.jpg

Diolch / Thank you

Thank you to everyone who has visited, volunteered and enjoyed Cwm Doethïe.

 

Together, you're helping nature thrive

bottom of page