
Gweithiwch Gyda Ni
Mae Tir Natur yn bodoli er mwyn adfer natur yng Nghymru drwy ailwylltio.
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar Gwm Doethïe yn yr Elenydd (Mynyddoedd Cambria) lle rydym yn creu prosiect ailwylltio mwyaf Cymru. Rhywle i brosesau naturiol adfer, i fywyd gwyllt ddychwelyd, ac i bobl ailgysylltu â’r dirwedd.
Gwaith hirdymor yw hwn. Mae’n dwyn ynghyd ecoleg, cymuned, adrodd straeon a stiwardiaeth tir ymarferol. Os ydy adfer natur yn rhywbeth sy’n agos at eich calon ac os ydych am gyfrannu at rywbeth uchelgeisiol a gobeithiol, er mwyn Cymru a chenedlaethau’r dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Gweithio Gyda Tir Natur
Sefydlwyd Tir Natur gan ein bod yn credu bod rhaid adfer natur yng Nghymru trwy weithio gyda’i phobl, ei diwylliant a’i chymunedau. Mae ein dull o ailwylltio wedi’i wreiddio yn nhirweddau Cymru ac mae’n anelu at gefnogi adferiad ecolegol a bywoliaethau cefn gwlad. Rydym yn dîm bach, cydweithredol sy’n gweithio ar weledigaeth hirdymor er mwyn natur yng Nghymru.
Swyddi Gwag Cyfredol
O bryd i’w gilydd rydym yn recriwtio ar gyfer swyddi yn ymwneud â chyfathrebu, ecoleg, codi arian a chyflawni prosiectau.

Ymddiriedolwr
Tir Natur
Mae ein Hymddiriedolwyr yn chwarae rôl hollbwysig wrth sicrhau bod Tir Natur yn aros yn driw i’w ddiben: adfer natur ar raddfa, ysbrydoli pobl, a helpu Cymru i ddod yn genedl fwy gwydn.
Y rôl
Mae Ymddiriedolwyr yn llywio ein strategaeth, yn goruchwylio cyllid a llywodraethu, ac yn cefnogi ein tîm i gyflawni gwaith ailwylltio sy’n cael effaith wirioneddol. Byddwch yn mynychu chwe chyfarfod Bwrdd o bell bob blwyddyn, diwrnodau strategaeth achlysurol, ac ymweliadau â’n safle Cwm Doethïe.
Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n:
-
Dod ag egni, ymroddiad a syniadau ffres
-
Yn angerddol dros ailwylltio (neu’n awyddus i ddysgu)
-
Yn siarad Cymraeg yn hyderus
-
Yn byw yng Ngheredigion, Sir Gar neu ym Mhowys, neu â chysylltiadau cryf â’r ardaloedd hyn
Nid oes angen profiad blaenorol fel ymddiriedolwr — rydym yn darparu hyfforddiant llawn.
Telerau
-
Rôl wirfoddol gyda threuliau rhesymol yn cael eu had-dalu
-
Tymor cychwynnol o 6 mis, ac yna 3 blynedd os cewch eich penodi (gellir adnewyddu hyd at 9 mlynedd)
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu’n Saesneg - anfonwch unrhyw ymholiadau i trustees@tirnatur.cymru.
Cadwch mewn cysylltiad
Os nad oes swyddi gwag ar hyn o bryd, gallwch gadw mewn cysylltiad â Tir Natur yn y ffyrdd canlynol:
-
cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr
-
gwirfoddoli
-
dilyn ein gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol
-
cefnogi’r prosiect
Gyda’n gilydd gallwn helpu i adfer natur yng Nghymru.

