top of page

Y Tir

Dewch am dro gyda ni i’r tir yng Nghwm Doethïe.

 

Mae’r tir wedi’i leoli yng Nghwm Doethïe, yn yr Elenydd yng nghanolbarth Cymru. Mae’n gorwedd rhwng tref Tregaron (9 milltir) a phentref Rhandirmwyn (13 milltir).

Tir Natur Map Cropped Rev C.jpg

Delwedd: Map o'r tir yng Nghwm Doethïe (Katherine Jones Artist).

Bydd ein gwaith yn rhoi natur wrth y llyw, gyda chefnogaeth amrywiaeth wedi’i dewis yn ofalus o wartheg, merlod - a moch, pan fydd yn amser gwneud hynny.

​​​

Rydym wedi nodi ardaloedd allweddol, gan gynnwys mawnogydd ac afonydd a’u glannau, ble bydd ymyriadau cynnar yn helpu ailwylltio i flaguro. Byddwn hefyd yn cefnogi adferiad rhostiroedd ac yn annog planhigion ifanc i dyfu a phryfed i ffynnu.​

​​

Gallwch ddysgu mwy am wahanol nodweddion y tir isod: â€‹

Doethïe Fach a’r Mawndir (bloc y gogledd-orllewin): 580 erw

Heddiw

Mae mawnog fil o flynyddoedd oed yn gorchuddio’r llwyfandir, yn ymestyn hyd at ymyl y blanhigfa.

​​

Mae glaswellt y gweunydd (Molinia) yn tyfu’n drwch dros gyfran helaeth ohoni, y cudynnau trwchus yn atal amrywiaeth ehangach o blanhigion rhag tyfu.

​

Yn is i lawr, mae glaswelltir asidig a rhedyn yn britho’r llechweddau sy’n disgyn am lawr y dyffryn, ble mae’r dŵr yn byrlymu yn y nentydd.

​

350 mlynedd yn ôl, gosodwyd cerrig sylfaen fferm Nant Ieuan ac mae hen ffiniau’r caeau yn dal i’w gweld.

​​

Mae llond dwrn o goed hynafol yma o hyd, yn amlinellu hynt yr hen lwybrau, tra bo tyfiant newydd – llwyni helyg a phrysgoed – ar hyd glan yr afon. Ffrwyth gwaith gwirfoddolwyr lleol ydy’r adferiad hwn ar lan yr afon, a fu’n plannu’r coed yn 2018.

Ymhen 5-10 mlynedd...

Dim ond gwlychu’r mawn o’r newydd a dychwelyd anifeiliaid pori trwm ac fe ddaw brithwaith cyfoethog o gynefinoedd i orchuddio’r tir eto.

 

Fe ddaw’r fawnog yn fyw – tirwedd wlypach, fwy bywiog, wedi’i dotio â chlustogau o fwsogl coch a gwyrdd. Yn y gwanwyn, bydd plu’r gweunydd yn dawnsio yn y gwynt, gwlithlys yn llyncu pryfed, a’r gïach yn bwydo ac yn nythu’n ddiogel mewn pyllau bas.

​​​

Bydd grug a llus yn dotio’r dirwedd yn borffor wrth i’r amrywiaeth o blanhigion a glaswellt gynyddu.

​​​

Daw adar fel y bras cyrs a’r telor helyg i neidio rhwng llwyni a llenwi llawr y dyffryn â’u cân.

​

Bydd coed derw a gwern yn tyfu’n dal mewn clytiau o goedwig law Geltaidd, wrth i lygod pengrwn y dŵr, dyfrgwn, bronwennod y dŵr, a siglennod brith symud rhwng glannau’r afon a’r gwlyptiroedd a adferwyd.

Camddwr (bloc y gogledd-ddwyrain): 367 erw
Heddiw

Yn gorwedd rhwng Afon Camddwr ac ymyl y blanhigfa goed, glaswelltir eang yw bloc y gogledd-ddwyrain.

​

Mae cyfres o gymoedd bas yn rhedeg o’r gorllewin am y dwyrain, gyda thri hen ffermdy amlwg y mae modd mynd atynt ar droed o hyd.

​​

Mae rhan helaeth o’r ardal dan drwch o laswellt y gweunydd, yn gymysg â llecynnau o redyn, eithin a glaswelltir asidig.

​​

I’r gogledd, prin iawn yw’r coed ar hyd glannau’r afon – ond ble mae hi’n troi, mae bywyd gwyllt yn ffynnu. 

​​

Mae poblogaeth fechan o lygod pengrwn y dŵr yn byw yma, ynghyd â dyfrgwn, siglennod llwydion, a mursennod. Mae gweision neidr yn gwylio’r glannau.

Ymhen 5-10 mlynedd...

Bydd gyrroedd bychain o wartheg a greoedd o ferlod yn crwydro a phori gan roi eu stamp ar y dirwedd.

​​​

Bydd grug yn dychwelyd ar hyd ochrau’r cymoedd, a brithwaith o laswelltir a rhostir yn ffurfio. Bydd madfallod yn gwledda ar chwilod ac amrywiaeth eang o bryfed.

​​

Daw crec yr eithin a thinwennod y garn yn yr haf i ymgartrefu a llenwi eu boliau wrth baratoi am eu taith hydrefol hir dros dir a môr.

​​​

Daw llwyni a phrysgwydd i glustogi glannau’r afon, gan atseinio o drydar yr adar a fydd yn rhuthro yma a thraw ac yn canu’n groch wrth gystadlu am bartner a thiriogaeth. Daw blagur yr helyg i lonni’r gwanwyn, a’r coed criafol yn drwm dan aeron i liwio tirwedd yr hydref - gyda heidiau o gochion dan adain yn dod ynghyd i wledda.

Cwm Doethïe (bloc y de-orllewin):
252 erw

Heddiw

Yng Nghwm Doethïe, mae coed derw hynafol yn ymlwybro ar hyd llawr y dyffryn, rhai â chennau’n diferu o’u canghennau – adlais o’r goedwig law dymherus a fu’n ffynnu yma ar un adeg. Mae coed criafol a bedw ifanc yn dechrau dringo llethrau’r dyffryn.

 

Mae pori ysgafn yn y blynyddoedd diwethaf wedi caniatáu i redyn ungoes gydio, sy’n cysgodi llawer o’r isdyfiant.

​

Ar y topiau, mae grug yn tyfu mewn llecynnau o hyd – olion esgyrnog o’r hyn a fu ar un tro yn rhostir helaeth.

​

Gerllaw, mae’r troellwr mawr yn nythu.

​

Yn bellach i’r gogledd, mae’r dyffryn yn codi’n fwy serth ac yn culhau. Ar ben cyfrwy naturiol yn y dirwedd mae olion neuadd ffrâm nenfforch o’r Oesoedd Canol a hen fwthyn Dinas Foel Fraith.

Ymhen 5-10 mlynedd...

Byddwn yn dal ati i adfer coed a llwyni ar hyd ymylon y nant, gyda dail gwyrdd gloyw yn blaguro yn y gwanwyn a chân yr adar ar yr awelon.

​

Bydd gwartheg a merlod wedi caniatáu i isdyfiant cyfoethog ac amrywiol ddatblygu – gan greu lle i blanhigion prinnach ffynnu, gloÿnnod brith hedfan a chôr cyfoethocach o adar y coed ganu.

​

Erbyn diwedd yr haf, bydd gwawr biws ar hyd y topiau gydag adferiad y rhostir. Bydd grug a llus o bob maint ac oed yn gorchuddio’r llechweddau, bydd gwledd i fele’r coed, wrth i adar ysglyfaethus wylio’n amyneddgar o uwchlaw am eu tamaid nesaf.

Pam rydyn ni’n ailwylltio’r tir hwn?

​​

Mae hwn yn lle perffaith i adfer byd natur am ei fod:

​​

  • Yn ymestyn dros 1,195 erw (tua 750 o gaeau pêl-droed), yn cynnwys dwy afon a’u llednentydd, sy’n rhedeg am 9 cilomedr i gyd.

  • Yn cynnwys 160 erw o fawndir wedi dirywio sy’n barod i’w ailwlychu.

  • Yn gorwedd o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mynydd Mallaen/Cwm Doethïe, sy’n cael ei warchod am ei goetiroedd hynafol o goed derw mes-digoes.

  • Yn gyfle heb ei ail i gysylltu ecosystemau ar draws tirweddau.

  • Yn anaddas ar gyfer coedwigaeth fasnachol oherwydd ei statws fel SoDdGA a’i werth pori isel, wedi’i ddominyddu gan undonedd o laswellt y gweunydd a rhedyn ungoes.

  • Yn sefyll o fewn y biom coediwg law Geltaidd (dymherus) ac ardal cadwraeth y wiwer goch a nodwyd gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

  • Yn llawn cartrefi, hen ffermdai, a 55 o dirnodau ac adeiladau hanesyddol, pob un â stori i’w adrodd.

  • Yn floc helaeth, parhaus o dir heb ffyrdd na rhwystrau mewnol, sy’n ei wneud yn ddelfrydol i fywyd gwyllt grwydro’n rhydd ac yn ddiogel.

Mae’r tir hwn yn dyheu am lwybrau newydd - i fywyd gwyllt ac i bobl. Dyma ydy Tir Natur.

Mynediad i’r tir

​​

Rydym yn eich gwahodd i gerdded a chrwydro yma - mae’r tir gan fwyaf yn ‘dir mynediad agored’ ac mae gennych hawl i wneud hynny.


Capel mwyaf diarffordd Cymru, Soar-y-Mynydd, yw’r man cychwyn gorau ar gyfer eich ymweliad cyntaf.

​​​

Gofynnwn i chi:

  • Fod yn ystyriol o’n cymdogion, treftadaeth y tir, a’r bywyd gwyllt sy’n byw yma.

  • Cynllunio eich taith yn ôl y tywydd a’ch gallu eich hun.

  • Cysylltu drwy e-bost ymlaen llaw - mae aelodau tîm Tir Natur ar y tir yn rheolaidd. Mae’n werth cysylltu cyn ymweld i gael gwybod a fydd modd cwrdd â ni yno.

  • Edrych ar ein rhaglen o deithiau tywys, sgyrsiau a chyfleoedd i wirfoddoli a gaiff ei chyhoeddi yn ystod gwanwyn 2026. â€‹

Delweddau: Darluniau (Katherine Jones Artist) a ffotograffau Cwm Doethïe (David Kilner)

​

Tir Natur

Y Beudy

Lanlwyd

Pennant

Ceredigion

SY23 5JH

​

team@tirnatur.cymru

​

07929 275137

​

Screenshot 2026-02-05 153035.png

Tanysgrifiwch i'n rhestr e-bost

Diolch am gyflwyno!

  • Instagram
  • Facebook

Mae Tir Natur yn Sefydliad Corfforedig Elusennol sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr - Rhif Cofrestru 1199300

bottom of page