Trefnwch eich ymweliad
Mae ymweld â Chwm Doethïe yn gyfle i brofi tirwedd sy’n rhoi’r cyfle i fywyd gwyllt a phobl ffynnu. P’un a ydych yn crwydro ein llwybrau cerdded, yn ymuno â gweithgaredd gwirfoddoli neu’n aros gerllaw i fwynhau heddwch y dirwedd, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gynllunio taith ddiogel a phleserus.
Sut i gyrraedd yma
Mae safle Cwm Doethïe yn ymestyn dros 1,195 erw o dir yng Nghwm Doethïe, yn yr Elenydd (Mynyddoedd Cambrian) gogoneddus yng Ngheredigion yng nghanolbarth Cymru. Mae wedi’i leoli rhwng Tregaron (9 milltir) a Rhandirmwyn (13 milltir).
Cyrraedd mewn car:
Gallwch gyrraedd safle Cwm Doethïe o Soar y Mynydd, y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru.
Capel Soar y Mynydd SY25 6NP
What3Words: ///zones.wiped.dabbling neu os yw lleoedd parcio yn gyfyngedig – ///chins.trudges.crumble
Dolen Google Maps: https://g.co/kgs/9QG86KZ
Mae signal ffôn yn brin ar y safle. Rydyn ni’n argymell cadw eich mapiau all-lein (offline) cyn cychwyn ac osgoi eu hail-lwytho yn ystod y daith.
Crwydro’r Safle
Mae sawl llwybr cerdded ar draws y safle sy’n amrywio o ran hyd a hygyrchedd. Mae’r llwybrau’n arwain ar hyd glannau’r afonydd, drwy goetiroedd ac ar draws ucheldiroedd agored.
Mae’r arwynebau’n anwastad – cymerwch ofal
Beth fydd ei angen?
Mae’r safle hwn yn ymestyn dros 1,200 erw ac mae’r tywydd yn gallu newid yn gyflym. Gan fod y tirwedd yn amrywio, paratowch a byddwch yn barod.
-
Esgidiau cadarn – Bŵts neu esgidiau cerdded sy’n addas ar gyfer tir anwastad.
-
Dillad sy’n addas i’r tywydd – Haenau o ddillad, dillad gwrth-ddŵr, ac amddiffyniad rhag yr haul yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn.
-
Potel ddŵr amldro - Cofiwch ei lenwi !
-
Binocwlars – Mae bywyd gwyllt yn aml i’w weld o bell.
-
Mwynhewch fyd natur â pharch - Caewch y giatiau ar eich ôl, cadwch bob ci ar dennyn, a rhowch ddigon o bellter i dda byw a bywyd gwyllt - peidiwch â mynd at yr anifeiliaid na'u bwydo.
Ni chaniateir tanau.

Mae eich ymweliad yn cefnogi adferiad hirdymor byd natur yn y dirwedd hon.
Ewch â phopeth gyda chi pan fyddwch yn gadael ac ewch a’ch sbwriel adref.

Lleoedd i aros gerllaw
P’un a yw’n well gennych fwthyn clyd, gwesty croesawgar neu fyncws syml yn agos at y bryniau, mae’r Elenydd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau llety o fewn cyrraedd Tir Natur. Mae’r awgrymiadau hyn yn seiliedig ar argymhellion lleol ac adolygiadau gan ymwelwyr.
Mae’r pellteroedd yn seiliedig ar y pellter o Gapel Soar y Mynydd (SY25 6NP).
Capel mwyaf diarffordd Cymru, Soar-y-Mynydd, yw’r man cychwyn gorau ar gyfer eich ymweliad cyntaf.
Gwestai
-
Y Talbot, Tregaron - 9.3 milltir
-
Neuadd Arms, Llanwrtyd Wells - 12.9 milltir
-
Bythynnod a Llety Hunanarlwyo
-
Tan Yr Allt - 8.5 milltir
-
Drws Nesa - 9.1 milltir
-
Cambrian Escapes - 16 milltir
Glampio a Chilfannau
-
Welsh Glamping - 8.9 milltir
-
Llwynderw Hall - 8.5 milltir
-
Tai Gwesteion a Llety Gwely a Brecwast
-
The Royal Oak - 13 milltir
-
Ardwyn House - 13 milltir
-
New Hall Guest House - 13 milltir
-
Hosteli a Thai Bynciau
-
Ty’n Cornel Hostel - 2.4 milltir
-
Dolgoch Hostel - 5 milltir
Delweddau: Darluniau (Katherine Jones Artist) a ffotograffau Cwm Doethïe (David Kilner)
