Gwrando ar Adar Rhiannon
- Tir Natur
- May 4
- 3 min read
gan Elen Robert

Mae hi’n ddiwrnod dathlu Côr y Wig, sef canu’r adar yn yr oriau mân. Pa wersi i ni heddiw sydd gan yr hen hanesion am Adar Rhiannon?
Tri aderyn swynol eu cân ydy Adar Rhiannon, sydd â’r gallu i ddeffro’r meirw o’u trwmgwsg a suo’r byw i gysgu.
Yn hanes Culhwch ac Olwen, mae’r cawr dychrynllyd, Ysbaddaden Bencawr, yn gosod llu o dasgau amhosib i Culhwch eu cyflawni cyn rhoi ei unig ferch, Olwen hardd, iddo’n wraig. Un o’r tasgau hynny ydy dod ag Adar Rhiannon iddo i’w gysuro ar noson priodas Culhwch ac Olwen. Oherwydd gwyddai’r cawr mai ei ffawd oedd trigo pan fyddai Olwen yn priodi.
Yn ail gainc y Mabinogi, hanes Branwen, mae’r saith o ddynion a ddychwelodd i Gymru’n fyw wedi’r gyflafan yn Iwerddon yn treulio saith mlynedd yn gwledda yn Harlech. Yno cânt eu diddanu gan Adar Rhiannon. Dywedir bod cân yr adar mor swynol fel bod pob cân a glywodd y dynion cyn hynny’n gras mewn cymhariaeth. Maen nhw’n canu’n bell allan ar y môr, ac eto mae eu cân yn glir fel cloch, fel eu bod yn agos iawn. Ar hyd y saith mlynedd yn Harlech, mae’r saith o ddynion yn anghofio am dreigl amser ac am eu gofid, gan gynnwys marwolaeth anochel eu cyfaill a’u harweinydd, cawr arall, Bendigeidfran.
Dyna’r oll a wyddwn o’r hen lawysgrifau am Adar Rhiannon*. Ac eto, maen nhw wedi gadael argraff ddofn ar ein dychymyg.
Fel y mae adar cân hyd heddiw. Pwy sy heb brofi gofid yn eu gadael wrth wrando ar gân yr adar, teimlo’r tensiwn yn llacio drwy ryw ryfedd wyrth o glywed y tonnau sain melfedaidd drwy’r coed? Yn iaith ein biwrocratiaeth heddiw, mae’n debyg mai yn nhwll colomen ‘llesiant’ y byddai Adar Rhiannon yn cael eu ffeilio. Un o’r ffyrdd y mae byd natur yn darparu gwasanaethau ecosystem i ni drwy ddod â buddion llesiant i’n rhan.

Ond perthyn i fyd arall mae’r adar. Mae gan yr adar eu tiriogaeth eu hunain. Fel gwelwn yn hanes Branwen, yng nghlustiau’r dynion maen nhw’n agos atynt, ond maen nhw i’w gweld yn canu’n bell allan ar y môr. Maen nhw yno, ac eto ddim. Yn eu byd eu hunain, sy wedi’i gydblethu â’n byd ni, ac eto ar wahân. Gellir mynd a dod rhwng ein byd ni ac Annwn, ond mae Annwn yn bodoli ar ei delerau ei hun. A chanu ar eu telerau eu hunain mae Adar Rhiannon. Efallai mai dyma pam y cysylltiad â Rhiannon (nid yw’r cysylltiad yn glir yn yr hanesion sy wedi goroesi) – y frenhines hudolus annibynnol sy’n penderfynu ar ei ffawd ei hun, i adael ei chartref yn Annwn ac i briodi dyn o’i dewis ei hun o’r byd hwn.
Canu ar eu telerau eu hunain y mae adar cân heddiw, yn eu tiriogaeth eu hunain, ac nid er ein mwyn ni. Nid i greu ‘gwerth’, ond bywyd a chymuned er eu mwyn eu hunain. Maen nhw’n byw yn yr un byd â ninnau, ac eto ar wahân. Mae eu cân, o bell bob tro yn ein clustiau ni ac eto’n teimlo’n agos, yn treiddio i fêr ein hesgyrn, yn gallu newid ein hamgyffred o amser a phellter, yn lleddfu gofid ac yn cynnig ysbrydoliaeth. Ar eu telerau eu hunain.
* Mae sôn hefyd bod Adar Rhiannon yn cael eu crybwyll yn Nhrioedd Ynys Prydein, ond mae’n debyg mai ffrwyth dychymyg Iolo Morgannwg ydy hynny. Gweler gwaith Elaine S. Eichner:
Comments