Cyhoeddiad: Ymadawiad Cyd-sylfaenydd, Stephen Jenkins
- Tir Natur

 - Jul 28
 - 1 min read
 
Gyda diolch enfawr am ei waith diflino, mae’n drist iawn gennym gyhoeddi y bydd cyd-sylfaenydd Tir Natur, Stephen Jenkins, yn camu i lawr o Tir Natur am resymau personol. Rydym mor ddiolchgar am bopeth y mae wedi'i wneud i Tir Natur ers i ni ffurfio yn 2021 ac ni fyddem yma hebddo.
Mae uchelgais Stephen am Gymru wylltach, gan ddefnyddio ail-wylltio gydag anifeiliaid pori fel rhan allweddol o adfer natur, wedi bod yn greiddiol i ffurfiad ac egwyddorion Tir Natur.
Mae ei waith yn ystod blynyddoedd cynnar yr elusen hon wedi gosod y sylfeini ar gyfer ail-wylltio ar raddfa fawr ac rydym mor ddiolchgar am y mewnbwn hwn. Bydd colled ar ei ôl, a gobeithio y byddwn yn ei weld ar y tir yn y dyfodol!



Comments