Beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf o ran sicrhau perchnogaeth lawn ar Cwm Doethïe?

Dyma grynodeb o'n taith hyd yma
Roedd angen i ni godi £2.2 miliwn i sicrhau perchnogaeth lawn o’n safle ailwylltio yng Nghwm Doethïe. Diolch i’ch cefnogaeth ein cymuned ehangach o gefnogwyr, a chyda chymorth benthyciad pontio dyngarol â llog isel, fe wnaethom ni lwyddo i brynu’r safle ym mis Rhagfyr 2025.
Cyhoeddwyd y newyddion hyn ym mis Chwefror 2026, ar ôl inni gyfarfod â’r cymdogion.
Roedd prynu’r tir yn garreg filltir enfawr! Roedd yn golygu na chollwyd y cyfle i ddiogelu Cwm Doethïe, a gallem ddechrau ar y gwaith o adfer natur ar unwaith – trwy gyflwyno anifeiliaid pori, cynnal arolygon ecolegol a chyfarfod â phobl leol – wrth barhau â’r gwaith hanfodol o godi’r arian sydd ei angen i sicrhau’r lle arbennig hwn yn llawn ar gyfer y tymor hir.
Faint o arian sydd wedi'i godi hyd yma

Rydym yn hynod ddiolchgar ein bod wedi codi 75% o gost y tir, (£1.635)
miliwn. Mae hynny’n golygu bod 25% (£565k) yn weddill i’w godi erbyn
mis Rhagfyr 2028.
Heb sicrhau’r tir yn llawn, ni ellir ailwylltio yn y tymor hir, fel adfer ein holl mawndiroedd ac ailgyflwyno rhywogaethau. Mae angen i Gwm Doethïe gael ei ddiogelu ar gyfer natur wyllt, ei reoli am byth, a’i warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Edrych i'r dyfodol
Diolch i'r gefnogaeth anhygoel rydym wedi'i derbyn hyd yma, rydym yn dechrau dod yn nes at sicrhau dyfodol Cwm Doethïe er budd natur, pobl a chenedlaethau'r dyfodol. Ond mae £565,000 yn weddill i'w godi cyn y bydd y tir wedi'i sicrhau'n llawn. Mae angen eich cefnogaeth o hyd, ac mae pob rhodd yn cyfrif.
Yr hydref hwn, byddwn yn lansio ymgyrch codi arian arbennig a fydd yn rhoi cyfle i gefnogwyr gael effaith hyd yn oed fwy. Rhwng 16 a 30 Tachwedd, bydd rhoddion yn cael eu paru punt am bunt, hyd at gyfanswm o £20,000, gan helpu pob cyfraniad i fynd ddwywaith mor bell tuag at sicrhau dyfodol hirdymor Cwm Doethïe.
Byddwn yn rhannu mwy o fanylion yn fuan, felly cadwch lygad allan. Gyda natur eisoes yn dechrau adfer ar y tir a chefnogaeth i'n gweledigaeth yn parhau i dyfu, mae hwn yn gyfle pwerus i helpu siapio dyfodol y dirwedd ryfeddol hon.
Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod Cwm Doethïe yn lle gall natur a phobl wir ffynnu.




Comments