top of page
Search

Rydym yn recriwtio: Prif Weithredwr

Writer: Tir Natur
Tir Natur
8 hours ago
2 min read

Tir Natur yw’r unig elusen yng Nghymru sydd wedi ymroi’n llwyr i ailwylltio. Rydym yn gweithio i adfer natur ar raddfa’r dirwedd, gan ddatblygu model sydd wedi’i wreiddio mewn cymunedau lleol ac yn niwylliant Cymru ac wedi’i lywio gan Egwyddorion Ailwylltio’r IUCN.


Ar ôl pedair blynedd o ddatblygu, mae Tir Natur wedi sicrhau 1,195 erw o dir yng Nghwm Doethïe a chyllid i sefydlu safle ailwylltio cyntaf Cymru ar raddfa’r dirwedd. Rydym bellach yn cychwyn ar y gwaith o gyflawni ac yn chwilio am Brif Weithredwr i arwain yr elusen drwy’r cam nesaf pwysig hwn.


I ddechrau, bydd y Prif Weithredwr yn cryfhau systemau’r sefydliad, capasiti’r tîm a’n ffordd o fesur effaith, gan sicrhau bod gennym y sylfeini y mae eu hangen i gyflawni’n effeithiol ac yn gynaliadwy. Gan adeiladu ar hyn, bydd yn arwain ar ddatblygiad tymor hirach yr elusen: sicrhau buddsoddiadau, meithrin partneriaethau strategol a datblygu model y gellir ei efelychu ar gyfer ailwylltio ar raddfa’r dirwedd yng Nghymru.


Mae hwn yn gyfle cyffrous i siapio elusen sy’n tyfu, gan ddylanwadu ar syniadau nid yn unig am sut caiff tir ei reoli, ond hefyd sut gall adferiad natur a chymunedau lleol ffynnu gyda’i gilydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfuno arweinyddiaeth sefydliadol ymarferol


Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig ac ymarferol sydd:

🌿 Yn angerddol am ailwylltio a newid ar raddfa tirwedd

🌿 Â phrofiad sylweddol mewn rôl arwain uwch

🌿 Yn gallu meithrin perthnasoedd dibynadwy gyda chymunedau a phartneriaid

🌿 Yn deall cyd-destun diwylliannol a gwleidyddol Cymru wledig

🌿 Yn siarad Cymraeg yn rhugl


📍 Mae’r rôl yn un o bell yng Nghymru, gan deithio’n rheolaidd i Gwm Doethïe a lleoliadau eraill yn ôl yr angen.

💷 £50,000 y flwyddyn, yn codi i £60,000 yn yr ail flwyddyn

⏰ Llawn amser (rhannu swydd yn


This is a rare opportunity to shape a growing charity and help create lasting change for nature, communities and future generations.


Visit our Work With Us for further details, job description and how to apply.



Dyddiad cau: Dydd Iau 19 Tachwedd


Ymweliad safle (dewisol): Dydd Sadwrn 21 neu ddydd Sul 22 Tachwedd


Dyddiad cyfweliad Cam 1: Dydd Iau 26 Tachwedd, lleoliad i’w gadarnhau


Dyddiad cyfweliad Cam 2: Dydd Mawrth 1 Rhagfyr ar safle Tir Natur

 
 
 

Comments


bottom of page