top of page
Search

Cyrhaeddwyd y Targed Cyntaf o'n Ymgyrch Dyblu'r Effaith Am Ailwylltio! Targed Newydd: £50,000

Writer: Tir Natur
Tir Natur
27 minutes ago
1 min read

Diolch i haelioni anhygoel ein cefnogwyr, rydym wedi cyrraedd ein targed codi arian cyntaf ar gyfer Dyblu Eich Effaith Am Ailwylltio Cwm Doethïe. Diolch o galon i bawb sydd wedi rhoi, rhannu'r ymgyrch a helpu i ledaenu'r neges.


Ond nid ydym yn stopio fan hyn. Ein targed estynedig newydd yw £50,000, a bydd yn ein helpu i fynd ymhellach fyth wrth sicrhau dyfodol y dirwedd arbennig hon.


Bydd pob rhodd ychwanegol yn cyfrannu at ymdrech ehangach Tir Natur i sicrhau perchnogaeth lawn ar Gwm Doethïe a gwireddu ein gweledigaeth o greu safle ailwylltio blaenllaw Cymru. Wedi'i wreiddio yn niwylliant a threftadaeth Cymru, bydd y safle'n dangos manteision eang ailwylltio i natur, gwydnwch hinsawdd a chymunedau lleol.


Bydd cyrraedd ein targed estynedig yn ein galluogi i ddiogelu tua chwe erw arall o dir, gan greu mwy o le i fywyd gwyllt ffynnu a helpu i lunio tirwedd gyfoethocach a mwy gwyllt i genedlaethau'r dyfodol ei phrofi a'i mwynhau.


Diolch am fod yn rhan o'r daith hon. Mae eich cefnogaeth yn helpu i wireddu gweledigaeth feiddgar ar gyfer natur yng Nghymru.


 
 
 

Comments


bottom of page