Partneriaeth newydd gyda Mountain Warehouse i gefnogi adferiad natur
- Tir Natur

- 1 day ago
- 1 min read
Mae Tir Natur yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth newydd gyda’r manwerthwr Mountain Warehouse, a fydd yn rhoi’r incwm o’u tâl bagiau plastig o’u siopau yng Nghymru i gefnogi gwaith ailwylltio Tir Natur yn Gwm Doethie, ger Tregaron yng Nghanolbarth Cymru.
Mae’r cydweithrediad hwn yn dangos cefnogaeth y prif fanwerthwyr awyr agored yn y DU i adferiad natur, a bydd yr arian a godir yn cefnogi’r gwaith Tir Natur i adfer cynefinoedd ac i wella bioamrywiaeth ar eu prif safle yn Gwm Doethïe.
Dywedodd Mark Neale, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Mountain Warehouse:
“Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Tir Natur drwy ein rhoddion o’r tâl bagiau plastig yng Nghymru. Mae gwaith y sefydliad elusennol i ddiogelu ac adfer natur yng Nghymru yn hynod bwysig, ac rydyn ni’n falch y bydd yr arian hwn yn helpu i warchod y llefydd arbennig hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Croesawodd Tir Natur y bartneriaeth fel hwb sylweddol i’w gwaith adfer natur.
Dywedodd Gwenni Jenkins-Jones, Rheolwr Codi Arian Tir Natur:
“Rydyn ni’n hynod hapus i fod yn gweithio gyda Mountain Warehouse. Bydd eu cefnogaeth yn helpu i gyflymu ein gwaith ailwylltio ac yn cryfhau gwydnwch ecosystemau Cymru. Mae’n ysbrydoledig gweld prif fanwerthwr yn hyrwyddo adferiad natur mewn ffordd mor weladwy.”
Mae’r rhodd yn rhan o apêl codi arian £500k Tir Natur i helpu i dalu am y tir ac ehangu’r gwaith ailwylltio sydd eisoes ar y gweill, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau cynnar y prosiect a chreu swyddi lleol newydd.
I ddysgu mwy ac i ddangos eich cefnogaeth drwy roi neu noddi eich sgwâr eich hun o wylltineb Cymreig, ewch i dudalen apêl Tir Natur.



Comments